Rheolau arbed ynni ar gyfer pob cartref rhentu preifat yng Nghymru
Stricter energy efficiency rules set to apply to all private rental homes in Wales
Bydd rhaid i landlordiaid Cymru sicrhau bod eu heiddo rhentu preifat yn bodloni safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol o 1 Ebrill 2020 ymlaen - ond mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i helpu landlordiaid i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.
Mae eiddo rhentu preifat domestig Cymru wedi'u rheoleiddio gan y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol. Rhaid cael Tystysgrif Perfformiad Ynni gradd E neu uwch ar eiddo o'r fath i gydymffurfio â'r gyfraith.
Bydd landlordiaid sy'n gosod eiddo dan denantiaeth ddomestig fyrddaliadol, reoleiddedig neu denantiaeth fyrddaliadol sicr yn cael eu heffeithio gan y newid.
Ers 1 Ebrill 2018, roedd yn ofynnol i gytundebau tenantiaeth a gychwynnwyd neu a adnewyddwyd ar ôl y dyddiad hwnnw fodloni'r lefelau gofynnol newydd ar unwaith.
O 1 Ebrill 2020 ymlaen, bydd y ddeddfwriaeth yn ymestyn i gynnwys tenantiaethau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu bod unrhyw eiddo rhent preifat sy'n methu bodloni'r gofynion sylfaenol yn anghyfreithlon, a gall y landlord gael cosb sifil o hyd at £5000.
Mae nifer o adnoddau ar gael i helpu landlordiaid i gydymffurfio, gan gynnwys cynlluniau a allai helpu gyda'r gost o wneud gwelliannau arbed ynni i'ch eiddo.
Fel rhan o gronfa Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, mae cynllun NYTH yn cynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i'ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad.
Mae gofynion y ddeddfwriaeth hefyd wedi'u hadlewyrchu yn ein Cod Ymarfer i ddeiliaid trwyddedi. Bydd methu â bodloni'r safonau gofynnol yn peryglu eich trwydded ac, o ganlyniad, eich busnes.
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn gweithio i weld pa eiddo ar eu cronfa ddata sy’n methu bodloni’r safon ofynnol ar hyn o bryd. Bydd landlordiaid eiddo sy’n methu cydymffurfio yn cael eu hatgoffa am eu dyletswydd i gydymffurfio, ac yn cael cynnig cymorth drwy eu cyfeirio at gynlluniau allai helpu gyda chostau gwneud gwelliannau arbed ynni yn eu heiddo.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:
"Rydyn ni am sicrhau bod cartrefi Cymru yn arbed ynni.
"Bydd y safonau newydd a gyflwynwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn sicrhau bod pobl sy'n rhentu cartrefi yng Nghymru yn manteisio ar gartrefi cynhesach, a fydd yn helpu i ostwng costau ynni ac yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd.”