English icon English
A55 carriageway 3

Rhoi wyneb newydd ar Gyffyrdd 35 – 34 yr A55

Essential resurfacing work to take place on A55 Junction 35 – 34

Cynhelir gwaith o roi wyneb newydd ar yr A55 i’r gorllewin rhwng Cyffordd 35  Dobshill a Chyffordd 34 Ewloe. 

Er mwyn cynnal cyflwr y ffordd, gwarchod diogelwch y cyhoedd ac osgoi’r perygl o gau rhagor o ffyrdd yn ddi-rybudd yn y dyfodol, mae’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd yn hanfodol.   

Byddai peidio â gwneud y gwaith hwn yn arwain at y ffordd yn dirywio ymhellach, gan olygu y byddai ffyrdd yn cau yn ddi-rybudd, a mwy o darfu ac anghyfleuster na’r gwaith sy’n cael ei gynllunio.  Bydd y ffordd newydd hefyd yn ddistawach na’r wyneb presennol. 

             Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, caiff y gwaith ei wneud ar y penwythnosau a gyda’r nos.  Er diogelwch modurwyr ac i ganiatáu i’r ffordd galedu bydd un lȏn wedi cau i’r gorllewin yn ystod yr wythnos. 

            Mae’r gwaith wedi ei drefnu i ddechrau ar 29 Chwefror a bydd y rhaglen yn parhau am bedair wythnos, gan ddibynnu ar y tywydd, ond gwneir pob ymdrech i gwblhau cyn yr amserlen os bydd hynny’n bosibl. 

            Bydd y gwaith yn golygu pedwar penwythnos o weithio pob diwrnod, ddydd a nos, gyda’r A55 wedi cau i’r gorllewin rhwng Cyffordd 36 Warren i Gyffordd 34 Ewloe gan drefnu gwyriadau.  Yn ystod yr wythnos, bydd yr A55 i’r gorllewin wedi cau dros nos gyda gwyriadau.  Mae cau y ffordd tua’r gorllewin yn golygu y bydd modd cynnal y gwaith ar y ddwy lȏn ar yr un pryd, gan leihau yr amser sydd ei angen i gwblhau’r gwaith.

            Mae Cyngor Sir Fflint wedi cytuno ar y cynllun ar gyfer y gwaith hwn.         

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates: “Mae’n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud i gynnal a gwella cyflwr yr A55.  Caiff pob ymdrech ei wneud i cael cyn lleied o darfu â phosibl ac i gwblhau y gwaith cyn gynted â phosibl. 

“Os na fyddai’r gwaith hwn yn cael ei wneud, byddai rhagor a rhagor o achosion di-rybudd o gau ffyrdd, a fyddai’n tarfu llawer mwy na’r gwaith sydd wedi’i gynllunio.  Mae’n hanfodol bod y ffordd yn cael ei chynnal a bod wyneb newydd yn cael ei osod er diogelwch y cyhoedd. 

“Hoffwn annog y cyhoedd i ddilyn yr arwyddion ar yr A55 tra bod y gwaith hwn yn digwydd, ac rwy’n diolch iddynt ac i breswylwyr lleol am eu cydweithrediad a’u hamynedd. 

“Rwy’n siwr fod pob modurwr o blaid cynnal a chadw a gwella ein ffyrdd ac yn derbyn bod angen gwneud gwaith arnynt o bryd i’w gilydd. Caiff y gwaith hwn ei wneud mewn modd a fydd yn tarfu cyn lleied â phosibl ar bobl.”  

Y gwaith o roi wyneb newydd fydd yr achos cyntaf o gau lôn yn ystod y dydd ar yr A55 ers 11 Hydref y llynedd.  Ni fyddwn yn trefnu i gau unrhyw lonydd yn ystod y dydd o ddiwedd y gwaith tan fis Medi, ar y cynharaf, rhwng Cyffordd 11 Llandygai a’r ffin â Lloegr. 

Gall defnyddwyr y ffordd ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Traffig Cymru neu ar sianel Twitter. 

Bydd angen rhagor o waith rhoi wyneb newydd ar hen rannau o’r A55 rhwng  Ewloe a Brychdyn a’r A483 Pulford i Wrecsam dros yr y blynyddoedd nesaf a bydd manylion llawn i’w cael cyn i hyn ddigwydd