English icon English
Canva - Sky Lanterns-2

Rhybudd am danau glaswellt yn dilyn y defnydd o lusernau awyr i ddangos cefnogaeth i’r GIG.

Grass fire warning following the use of sky lantern to show support for NHS.

Mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi rhybuddio pobl rhag defnyddio llusernau awyr i ddangos eu cefnogaeth i’r GIG yn ystod COVID-19.

 Mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi rhybuddio pobl rhag defnyddio llusernau awyr i ddangos eu cefnogaeth i’r GIG yn ystod COVID-19.

Daw’r rhybudd yn dilyn ymgyrch ddiweddar a oedd yn annog pobl i gynnau llusernau awyr i ddangos eu cefnogaeth i’r GIG. Mae’r holl wasanaethau brys ar draws Cymru dan bwysau cynyddol yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Gall llusernau awyr gynnau tanau pan fyddant yn glanio, a gall hyn ddefnyddio adnoddau hanfodol sydd eu hangen i ymateb i achosion o’r coronafeirws. Gall olygu na fydd llawer o griwiau ar gael ar gyfer tasgau eraill gan gynnwys rhoi cymorth i’r GIG yn ystod y pandemig presennol drwy yrru ambiwlansiau neu ddanfon meddyginiaeth.

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ymdrin â channoedd o danau glaswellt bwriadol, sy’n arbennig o gyffredin yn ystod y cyfnod o dywydd braf a sych adeg y Pasg. Mae ffigurau y llynedd yn dangos y cafwyd 566 o danau glaswellt bwriadol ym mis Ebrill 2019. Rydym wedi gweld 169 o danau yn barod eleni yn y De yn unig. 

Gall tanau glaswellt ddifrodi’r amgylchedd a bywyd gwyllt, a rhoi cymunedau a’r diffoddwyr tân sy’n eu hymladd mewn perygl difrifol. Mae mwg o danau glaswellt hefyd yn achosi llygredd aer sylweddol ac yn beryglus iawn i bobl sy’n dioddef o gyflyrau anadlol a chyflyrau eraill – gan gynnwys coronafeirws.

Nid llusernau awyr yn unig y rhybuddiwyd pobl rhag eu defnyddio. Gofynnwyd i dirfeddianwyr osgoi clirio tir y tu allan i’r tymor llosgi cyfreithiol. Gall tanau o’r fath ledaenu yn afreolus, gan olygu na ellir defnyddio ardaloedd mawr o dir o gwbl at unrhyw ddiben amaethyddol. Mae’r Gwasanaethau Tân ar draws Cymru hefyd wedi apelio ar bobl i ymddwyn yn gyfrifol, ar ôl cael galwadau i gannoedd o achosion ers cau’r ysgolion; gyda thanau yn aml ynghyn am ddyddiau cyn i griwiau fedru mynd i’r afael â nhw.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae llawer o bobl yn gwybod am y risg y gall tanau glaswellt gynnau yn lle bydd llusernau awyr yn glanio. Mae cynnau tanau glaswellt yn fwriadol mewn unrhyw ffordd yn gwbl anghyfrifol ac annerbyniol. Ar adeg pan mae gwasanaethau brys Cymru dan bwysau cynyddol, mae angen inni gydweithio ac osgoi rhoi straen pellach arnynt. 

Er ein bod yn deall bod pobl eisiau dangos eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad i’r GIG am eu holl waith, a’n bod yn eu hannog i wneud hynny, nid ydym yn awyddus i bobl ddangos eu cefnogaeth drwy ryddhau llusernau awyr”.

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Roger Thomas, Cadeirydd y Bwrdd Strategol ar gyfer Lleihau Tanau Bwriadol Cymru:

“Mae rhyddhau llusernau awyr fflamadwy iawn yn arwain at risg sylweddol o dân a’r posibilrwydd o beryglu eiddo, ein hamgylchedd, a rhoi straen pellach ar y Gwasanaethau Tân ac Achub ac asiantaethau partneriaeth yn y cyfnod anodd hwn.

Er fy mod yn cydnabod dymuniad pobl i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr y GIG, rwy’n eu hannog i ddod o hyd i ffyrdd eraill o wneud hyn, fel clapio i’r gofalwyr yn wythnosol, neu roi arian i elusen.”

DIWEDD