Rhybudd i rieni ynglŷn â pherygl diabetes heb ddiagnosis ymhlith plant a phobl ifanc
Warning to parents about the risk of undiagnosed diabetes among children and young people
Os bydd rhieni’n osgoi gofyn am gymorth meddygol oherwydd eu bod yn pryderu am y coronafeirws, mae plant mewn perygl o gael niwed difrifol yn sgil diabetes heb ddiagnosis.
Mae’r Gweinidog Iechyd a Rhwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru yn erfyn ar rieni i ofyn am gymorth meddygol ar unwaith os ydynt yn amau bod gan eu plentyn ddiabetes.
Peidiwch ag oedi, peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr oedd y neges i rieni a all gael cymorth gan eu meddyg teulu.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: “Fel rhiant, rydw i’n gwybod pa mor bwysig yw hi i ofyn am gymorth meddygol ar frys i’ch plant, er bod hwn yn gyfnod pryderus i deuluoedd a phlant.
“Ond mae gwasanaethau diabetes hanfodol yn dal i fod ar gael, felly os oes yw eich plentyn yn dangos arwyddion fod ganddo ddiabetes: peidiwch ag oedi, peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr.”
Atgoffwyd rhieni o’r arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt mewn plant a phobl ifanc. Gall y rhain ddatblygu’n gyflym iawn dros ychydig ddiwrnodau neu wythnosau.
Cysylltwch â’ch meddyg teulu nawr os oes gan eich plentyn unrhyw un o’r pedwar symptom hwn:
- Syched
- Pasio wrin yn amlach nag arfer, yn arbennig yn ystod y nos
- Blinder
- Colli pwysau a cholli màs cyhyrau
Mae arwyddion eraill i’w cael hefyd, gan gynnwys haint y gwddf, haint y llwybr wrinol, poen yn yr abdomen, chwydu, anadlu cyflym (sy’n debyg i haint ar y frest nad yw’n ymateb i driniaeth) a dryswch.
Mae’n ymddangos bod nifer y plant a phobl ifanc a fyddai fel arfer yn cael eu gweld gan weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru ers dechrau’r pandemig wedi gostwng. Mae data’n cael ei gasglu i benderfynu pa effaith y mae’r pandemig wedi ei chael ar wasanaethau.
Dywedodd Dr Davida Hawkes, Cadeirydd Rhwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru, ei bod yn pryderu bod y rhwydwaith fel arfer yn gweld rhwng 12 a 14 o blant sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 1 ar gyfartaledd bob mis yng Nghymru. Mae’r nifer hwn wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd Dr Hawkes: “Rydyn ni’n pryderu ein bod wedi cael llai o blant â diagnosis newydd o ddiabetes nag y byddem yn ei ddisgwyl dros yr wythnosau diwethaf yng Nghymru. Mae rhai wedi cyrraedd cam difrifol o’r cyflwr diabetes math 1, o’r enw Cetoasidosis Diabetig (DKA) - cam hwyr o’r clefyd sy’n gallu peryglu bywyd.
“Rydyn ni’n credu bod rhieni yn poeni am COVID-19 ac yn osgoi defnyddio gwasanaethau gofal iechyd, ac mai dyna sydd wrth wraidd hyn. Ond mae gadael diabetes math 1 heb ei drin yn rhoi plant a phobl ifanc mewn mwy o berygl na COVID-19.
“Mae gan bob gwasanaeth plant yng Nghymru drefniadau ar waith i sicrhau bod plant sy’n cael gofal yn ddiogel rhag COVID-19. Mae hyn yn cynnwys sefydlu ardaloedd lle nad oes achosion o COVID-19.
“Os gallwn ddechrau trin diabetes math 1 yn gynnar, mae’n bosibl i blant wella’n gyflym a chael profiad mwy positif o’r cyflwr hwn, sy’n gyflwr am oes.”
Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Ymunais â Diabetes UK Cymru 12 mlynedd yn ôl. Bu bron imi golli fy mab oherwydd iddo gael diagnosis hwyr o ddiabetes math 1. Rydyn ni wedi bod yn arwain y ffordd gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n cefnogwyr diflino ers hynny i godi ymwybyddiaeth o’r 25% o blant sydd â DKA difrifol adeg eu diagnosis.
Rydyn ni wedi gweld canlyniadau trychinebus diabetes heb ddiagnosis mewn plant a’r difrod mae’n ei achosi. Byddwn yn cryfhau ein hymgyrch i gyfleu’r neges wrth inni barhau i gefnogi plant a theuluoedd sy’n byw gyda diabetes.
Rydyn ni wedi canolbwyntio ar blant gan y gall symptomau’r cyflwr ddechrau’n gyflym iawn a gellir ei fethu. Mae COVID-19 wedi amharu ar systemau, er enghraifft mewn ysgolion a meithrinfeydd, lle gellir mynegi pryderon.”
I gael rhagor o gyngor, ewch i dudalen gwiriwr symptomau GIG Cymru ar 111.wales.nhs.uk a chwiliwch am ‘diabetes’. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen “Know Type 1” Diabetes UK Cymru hefyd: https://www.diabetes.org.uk/in_your_area/wales/campaigning/know-type-1---wales