Rhyddhau heddiw y ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru
Biggest feature film shot entirely in Wales released today
Mae'r thriller HAVOC, gafodd ei chynhyrchu gyda chymorth Cymru Greadigol, yn cael ei rhyddhau heddiw ar Netflix [dydd Gwener, 25 Ebrill]. Dyma'r ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru, yn ôl adroddiad diweddar gan y cwmni ffrydio.
Mae HAVOC, sydd â Tom Hardy yn actio ynddi a’r Cymro Gareth Evans (The Raid, Apostle, Gangs of London) yn awdur/cyfarwyddwr arni, yn adrodd hanes bargen aeth yn chwalfa a hen law o dditectif â'i daith helbulus trwy is-fyd troseddwyr i achub mab gwleidydd. Cafodd y cynhyrchiad ei ffilmio yn Great Point Studios yng Nghaerdydd, Dragon Studios Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn lleoliadau ledled y De.
Cymru bellach yw un o brif ganolfannau cynhyrchu Netflix, a chafodd sioeau eiconig eu ffilmio yma, fel y gyfres Netfix boblogaidd wreiddiol, Sex Education, a gafodd ei ffilmio mewn lleoliadau gwahanol ledled y De dros ei phedwar tymor hynod lwyddiannus. Diolch i gymorth Cymru Greadigol, gwnaeth y ddrama gomedi i bobl ifanc greu llawer o waith yn lleol, yn ogystal â thros 60 o gyfleoedd i hyfforddeion a phrentisiaid creadigol ifanc, gyda llawer ohonynt yn mynd yn eu blaenau i swyddi llawn amser.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Netflix ar ei effaith economaidd, mae ei gynyrchiadau yng Nghymru wedi cyfrannu dros £200 miliwn i economi'r DU ers 2020, gan gefnogi dros 500 o fusnesau o bob cwr o Gymru yn y cyfnod hwnnw.
Gan gydnabod ei wreiddiau Cymreig, mae Netflix wedi sicrhau y bydd HAVOC ar gael gydag isdeitlau Cymraeg, fel yr oedd The Adam Project gyda Ryan Reynolds a Dal y Mellt, y ddrama S4C Gymraeg gyntaf i Netflix ei chodi.
HAVOC yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o gynyrchiadau teledu a ffilm mawr sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru diolch i gymorth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol: o House of the Dragon gan HBO, i Young Sherlock gan Amazon a Mr Burton, ffilm uchel ei chlod sydd newydd ei rhyddhau yn y sinemâu.
Rydym yn rhagweld y bydd y £28.6m o gyllid cynhyrchu y mae Cymru Greadigol wedi'i fuddsoddi hyd yma yn sbarduno £342m o wariant ychwanegol yn economi Cymru, sy'n golygu am bob £1 y mae Cymru Greadigol wedi'i buddsoddi yn y sector sgrin, mae bron £12 arall yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru.
Mae'r buddsoddiad hwn wedi darparu lleoedd i 420 o brentisiaid a hyfforddeion, gan sicrhau cyflenwad o weithwyr proffesiynol crefftus.
Dywedodd Anna Mallet, Is-lywydd Cynhyrchu Netflix yn y DU:
"O Sex Education i The Crown, a nawr HAVOC, cafodd rhai o'n teitlau mwyaf poblogaidd eu ffilmio neu eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae gan Gymru lwyth o dalent greadigol a thirweddau naturiol hardd, gan ei gwneud yn lle ardderchog i greu adloniant. Mae Netflix felly'n falch iawn bod ein cynyrchiadau Cymreig yn dal i greu cyfleoedd diwylliannol ac economaidd sy'n para."
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:
"Rydym yn hynod falch o'n diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 35,000 o bobl dalentog, ac o'r seilwaith ardderchog sydd gennym ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu. Testun balchder yw cael gweithio'n agos gyda Netflix, HBO, Amazon ac eraill i ddod â chynyrchiadau mawr i Gymru. Mae cyweithiau fel hyn yn creu swyddi, hyfforddiant a gwariant mawr yn ein heconomi ac yn cynnig llwyfan i'r byd i ddangos popeth rydyn ni'n ei gynnig fel gwlad."