Rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn dechrau yfory yng Nghymru
WorldSkills UK national finals start tomorrow in Wales
Mae Cymru yn croesawu talent orau'r DU wrth iddi gynnal rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK – gan ddechrau yfory (dydd Mercher 26 Tachwedd) – am y tro cyntaf.
Bydd mwy na 400 o bobl ifanc fwyaf talentog y DU yn cystadlu yn y rowndiau terfynol sgiliau cenedlaethol mewn lleoliadau ar hyd a lled y De yr wythnos hon (26–28 Tachwedd 2025).
Rowndiau terfynol WorldSkills UK yw digwyddiad sgiliau galwedigaethol mwyaf y DU, gan ddenu miloedd o gystadleuwyr ac ymwelwyr yn lleol ac yn genedlaethol.
Bydd 417 o gystadleuwyr o bob cwr o'r DU yn cymryd rhan yn nigwyddiad eleni, gan gynnwys 130 o gystadleuwyr sy’n hanu o Gymru, mwy nag erioed o'r blaen.
Mae'r gystadleuaeth yn rhoi llwyfan i bobl ifanc i ddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol ar draws sectorau sy'n hanfodol i economi'r DU. Bydd y cystadleuwyr yn cael eu profi mewn sgiliau mor amrywiol â chelf gêm 3D, coginio, cynnal a chadw awyrennau ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:
"Rwy'n falch iawn bod Cymru yn cynnal y digwyddiad mawreddog hwn am y tro cyntaf. Mae rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn benllanw misoedd o ymroddiad a hyfforddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r cystadleuwyr a gweld eu talentau eithriadol.
"Hoffwn gydnabod yr amser a'r gwaith aruthrol sydd wedi mynd i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon - o'r cystadleuwyr eu hunain i'r colegau, y darparwyr hyfforddiant a'r cyflogwyr sydd wedi eu cefnogi bob cam o'r ffordd.
"Pob lwc i bawb sy'n cystadlu!"
Mae'r cystadlaethau yn rhan annatod o galendr addysg a hyfforddiant ôl-16, gan roi cyfleoedd i sefydliadau addysg a chyflogwyr feincnodi gallu yn erbyn safonau rhyngwladol.
Mae'r enillwyr yn aml yn mynd ymlaen i gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau byd-eang, gydag enillwyr medalau yn ymuno â Squad UK ac yn cystadlu mewn digwyddiadau fel Cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai y flwyddyn nesaf, cystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal am y 48ain tro.
Nodiadau i olygyddion
South Wales venues hosting the national finals this year include:
- University of Wales Trinity Saint David (Swansea)
- Bridgend College (Pencoed)
- Cardiff and Vale College (City Centre)
- Coleg Gwent (Newport)
- University of South Wales (Cardiff)
Livestream sessions for all sectors will be available on 26 and 27 November will provide interactive coverage and industry insights, with the medal ceremonies on 28 November.