English icon English
globe with mask-2

Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau gwell iechyd i bawb

World Health Organization and Welsh Government commit to achieve better health for all

Mae cytundeb newydd rhwng Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth Cymru wedi cael ei lansio, gan gadarnhau ymrwymiad Cymru i weithio’n agosach â’r sefydliad rhyngwladol i fynd i’r afael â thegwch iechyd a sicrhau ffyniant i bawb.

Mae’r ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’, sy’n cael ei gefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, yn ffurfioli’r berthynas gadarnhaol sy’n datblygu gyda Sefydliad Iechyd y Byd, gan gadarnhau bod Cymru yn wlad sydd â llawer i’w gyfrannu at yr agenda hawliau a thegwch iechyd, ac yn ehangach.

Yn dilyn arwyddo’r cytundeb yn swyddogol, cynhaliwyd cyfarfod rhithiwr heddiw [Dydd Mercher, 4 Tachwedd] rhwng y sefydliadau i drafod eu gwaith partneriaeth ymhellach, gan gynnwys nodi’r heriau cyffredin mewn cymunedau cyn effeithiau COVID-19 ac ar eu hôl a goresgyn yr heriau hynny.

Mae’r memorandwm hefyd yn nodi cytundeb cyffredin bod angen buddsoddi mewn iechyd a llesiant, yr amodau hanfodol ar gyfer sicrhau iechyd o’r safon uchaf posibl, datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau yn ymwneud ag iechyd sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb, megis presgripsiynau am ddim i bob preswylydd yng Nghymru a pharcio am ddim ym mhob ysbyty. Cymru hefyd yw’r wlad gyntaf i sefydlu ei menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi) ei hun, gan ymuno â chynghrair ar gyfer tegwch iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Yma yng Nghymru rydym wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau ffyniant cynaliadwy, o fewn ein ffiniau a thu hwnt iddynt. Mae Cymru, fel y rhan fwyaf o wledydd, yn dioddef  anghydraddoldebau o ran iechyd, ond rydyn ni’n benderfynol o adeiladu Cymru iachach i bawb.

“Mae’r ffaith bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod ein gwaith caled yn dyst i waith caled a dyfalbarhad pobl Cymru, sy’n gweithio’n barhaus i sicrhau cydraddoldeb ar gyfer ein cenedl.”

Dywedodd Dr Hans Kluge, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Swyddfa Ranbarthol Ewrop  Sefydliad Iechyd y Byd:

“Pa fath o le yr hoffech chi dyfu, magu teulu a mynd yn hŷn ynddo? Drwy ei ffocws ar feithrin cadernid pobl a chryfhau systemau iechyd a bywoliaeth, mae Cymru wedi defnyddio dull a all sicrhau lleoedd iach a chydlynol y gall pawb ffynnu ynddynt, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r hyn y byddwn yn ei ddysgu gan Gymru ynglŷn â sut i wireddu hyn yn ymarferol yn cyfrannu at gyflawni fy ngweledigaeth ar gyfer iechyd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, a hynny drwy’r Rhaglen Waith Ewropeaidd.”

“Gyda’r cytundeb hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, rydw i’n edrych ymlaen at gefnogi’r gwaith o sicrhau iechyd, datblygiad cynaliadwy a ffyniant i bobl Cymru, a dysgu o’r dulliau arloesol hyn i gryfhau tegwch iechyd ledled Ewrop dros y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae anghydraddoldebau iechyd yn bodoli yn ein cymdeithas ac mae effaith pandemig y coronafeirws newydd wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau hyn, gyda chanlyniadau hirdymor difrifol i iechyd y boblogaeth, yn arbennig i’r grwpiau mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

“Mae’r niweidiau hyn i’w teimlo naill ai’n uniongyrchol yn sgil y clefyd neu’n anuniongyrchol drwy effeithiau’r heriau economaidd, colli swyddi, ansicrwydd parhaus ac effaith y clefyd ar lesiant meddyliol a’r gorbryder y mae pobl yn ei deimlo wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd.

“Drwy ein Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’n cyfeillion yn Sefydliad Iechyd y Byd dros y blynyddoedd diwethaf. Daw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn ar adeg bwysig iawn wrth inni symud yn gyflym i liniaru’r effeithiau iechyd ehangach yn sgil y coronafeirws a dysgu gyda’n gilydd wrth wneud hynny.

“Mae hefyd yn cryfhau’r berthynas rhwng Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd ymhellach. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, byddwn yn cydweithio ar y cynllun gwaith y cytunwyd arno i sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant gorau a gwella tegwch iechyd yn ystod y cyfnod heriol hwn.”