Sefydlu Bwrdd TB newydd i Gymru
New TB Board established for Wales
Mae Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg newydd wedi'i sefydlu ar gyfer Cymru, dyma'r datblygiad diweddaraf wrth weithio tuag at ein nod cyffredin o Gymru heb TB.
Cadarnhawyd y newyddion heddiw gan Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, cyn wythnos o ymweliadau â sioeau amaethyddol ledled Cymru.
Mae hyn yn dilyn ffurfio'r Grŵp Cynghori Technegol ar TB Gwartheg ym mis Ebrill 2024 ac yn cwblhau'r strwythur llywodraethu ar gyfer y rhaglen y gofynnir amdano yng Nghynllun Cyflawni’r Rhaglen Dileu TB a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023.
Wrth siarad cyn teithio i Sioe Amaethyddol Môn a Sioe Sir Benfro, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae’n bleser mawr i mi gael gwneud y cyhoeddiad hwn gan ei fod yn dangos ein hymrwymiad clir i wrando ar y diwydiant a rhoi lle canolog i gydweithio yn y Rhaglen Dileu TB Gwartheg.
"Ers cae fy mhenodi, rwyf wedi bod yn awyddus i gwrdd â ffermwyr, milfeddygon a’r diwydiant ac wedi gwrando ar eu gofid ynghylch baich a phryderon TB. Mae cydnabod yr effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a'u busnesau yn flaenoriaeth."
Bydd aelodau'r bwrdd yn cael eu cadarnhau maes o law, ond dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn bwriadu i'r Bwrdd gynnwys gan fwyaf ffermwyr o wahanol rannau o Gymru a phobl o gefndiroedd ffermio. Bydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan ffermwr.
Bydd swyddogion yn cynrychioli tri sefydliad allweddol yn y diwydiant - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a changen Cymru o Gymdeithas Filfeddygol Prydain - hefyd yn cael eu penodi.
Bydd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ac aelodau’n cynrychioli Llywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cael eu penodi hefyd.
Bydd y Bwrdd yn cwrdd bob chwarter ac rhoi cyngor strategol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Bydd blaenoriaethau cynnar y Bwrdd yn cynnwys ystyried cyngor y Grŵp Cynghori Technegol mewn perthynas â'r adolygiad chwe blynedd o dargedau dileu TB Cymru ac archwilio sut i wella cyfathrebu ac ymgysylltu â ffermwyr a milfeddygon.
Nodiadau i olygyddion
Bydd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn Ymweld a Sioe Mon a Sioe Sir benfro yr wythnos hon. Cysylltwch a swyddfaywasgnewidhinsawdd@llyw.cymru os am drefnu cyfweliad.