English icon English
Mel Owen

Sefyll dros ddiogelwch genethod ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth

Standing up for girls' safety on International Day of the Girl

Heddiw, wrth edrych ymlaen at Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth, mae Llywodraeth Cymru yn dathlu llwyddiannau genethod gan ailddatgan ei hymrwymiad i'w cadw'n ddiogel, i warchod eu hyder ac i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.

Mae thema eleni, “The girl I am, the change I lead: Girls on the frontlines of crisis”, yn tynnu sylw at ddewrder ac arweiniad genethod dan amgylchiadau heriol.

Yn ôl ystadegau gan y Coleg Plismona, cynyddodd adroddiadau o drais yn erbyn menywod a genethod yng Nghymru a Lloegr gan 37% rhwng 2018 a 2023, gydag o leiaf un o bob deuddeg menyw yn profi trais gan ddyn bob blwyddyn - er bod y gwir niferoedd yn debygol o fod yn llawer uwch.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn blaenoriaethu atal, ymyrraeth gynnar a chymorth i oroeswyr.

Gall unrhyw un sy'n profi aflonyddu rhywiol, ymddygiad bygythiol neu gam-drin domestig gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn, sy'n darparu cymorth 24 awr y dydd dros y ffôn, neges destun, sgwrs fyw neu e-bost.

Mae Mel Owen, digrifwr, awdur ac eiriolwr o Gymru, yn defnyddio ei phlatfform i godi ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol cyhoeddus a thrais yn erbyn menywod. Yn gynharach eleni, rhannodd ei phrofiadau personol ochr yn ochr â'r cyflwynydd Jess Davies, lle tynnwyd sylw at gyffredinrwydd achosion o aflonyddu rhywiol a sut mae wedi effeithio arnynt hwy. Fe wnaethant bwysleisio pwysigrwydd defnyddio gwasanaethau cymorth fel Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, a reolir gan Cymorth i Ferched Cymru. Mae’r llinell hon yn cynnig cyngor cyfrinachol 24 awr y dydd ar faterion sy'n ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol.

Dywedodd Mel Owen: "Fel cynifer o fenywod ledled Cymru, mae gen i brofiad o deimlo'n fach neu'n anniogel wrth wneud dim ond bodoli mewn mannau cyhoeddus. Mae rhannu straeon personol ar y pwnc hwn yn gallu bod yn frawychus ond, o wneud hynny, rydw i wedi gweld y pŵer a ddaw pan fydd menywod yn cefnogi ei gilydd. Y mwyaf rydyn ni'n siarad am aflonyddu rhywiol, y mwyaf rydyn ni'n chwalu'r diwylliant sy'n caniatáu iddo barhau.”

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Does dim lle i aflonyddu, cam-drin na thrais yn ein cymdeithas. Rydyn ni'n gweithio i newid agweddau o oedran cynnar oherwydd mae pob geneth yn haeddu teimlo'n ddiogel, yn haeddu cael ei pharchu a'i chefnogi i gyrraedd ei photensial.

"Ddeng mlynedd yn ôl, gwnaethom gyflwyno'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sydd wedi gwella ymwybyddiaeth, hyfforddiant a mynediad at wasanaethau cymorth i ddioddefwyr trais a cham-drin ledled Cymru. Heddiw, rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i ddileu trais yn erbyn menywod a genethod, gan wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw neu'n eneth.

"Rydw i’n annog unrhyw un mewn sefyllfa anniogel i geisio cymorth drwy linell gymorth Byw Mewn Ofn."

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, am gymorth a chyngor:

Os ydych mewn perygl uniongyrchol ac os nad yw'n ddiogel ichi siarad, ffoniwch 999 ac yna 55 i dynnu sylw'r heddlu.