Sicrhau dyfodol cynaliadwy i dreftadaeth casglu cocos Cymru
Securing a Sustainable future for Wales’ cockle fishing heritage
Mae deddfwriaeth newydd yn dod i rym heddiw [10 Gorffennaf] sy'n helpu i sicrhau bod pysgodfeydd cocos yng Nghymru yn parhau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw yn y dyfodol.
Bydd Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 yn symleiddio'r rheoliadau ac yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru i reoli pob pysgodfa gocos mewn modd hyblyg, gan ymateb i dystiolaeth am iechyd y stoc a'r amgylchedd.
Mae hanes hir o gasglu cocos yng Nghymru sydd wedi cael ei gofnodi'n dda. Yn y cyfnod modern mae ei bwysigrwydd economaidd wedi cynyddu, ac erbyn hyn cydnabyddir ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig at ddiwydiant pysgota Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi cyflwyniad y ddeddfwriaeth newydd hon. Bydd yn helpu i sicrhau bod pysgodfeydd cocos yng Nghymru yn parhau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw yn y dyfodol.
"Mae casglwyr a chymunedau lleol yn falch o'u treftadaeth, a bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn hyrwyddo casglu cocos fel gwaith dilys a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant, gan gefnogi twf economaidd drwy barhau i weithredu pysgodfeydd hirsefydlog a hanesyddol bwysig."
Bydd gwiriadau newydd ar geisiadau am drwyddedau'n sicrhau mai'r bobl sydd â'r wybodaeth am sut i weithio'n ddiogel mewn amgylcheddau rhynglanwol sy'n casglu cocos.
Bydd tystiolaeth wyddonol gadarn a dulliau rheoli hyblyg yn sicrhau bod cocos yn cael eu casglu mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir, ac nad yw'n effeithio ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau rhynglanwol pwysig sy'n byw gerllaw.