English icon English

Sicrhau Dyfodol Gwyrdd Cymru – Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio

Securing Wales’ Green Future – Trydan Gwyrdd Cymru to be launched

Mae croeso i chi ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol o 00:01 fore Llun. Cyhoeddir rhagor o fanylion am Trydan Gwyrdd Cymru a'r Strategaeth Wres yng nghynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru (manylion isod) ac ar gael i bawb yn fuan wedi hynny.

Bydd Jeremy Miles yn nodi cynlluniau tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chyflenwadau ynni gwyrddach, mwy cynaliadwy heddiw. Y pennawd fydd lansio Trydan Gwyrdd Cymru, sydd wedi cael ei sefydlu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni gwynt ar y tir, ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru, ac i gynyddu eu gwerth ar gyfer pobl Cymru cymaint ag y bo modd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ogystal yn cyhoeddi ei Strategaeth Wres– y cyntaf o’i fath un y DU - sy'n nodi map ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwresogi cartrefi, eiddo masnachol a diwydiant fel rhan o'i hymrwymiadau sero net. Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru, y mae 75% ohono'n dod o danwyddau ffosil, mae yna wir angen am strategaeth drawslywodraethol i daclo hyn yn y tymor byr a’r tymor hir.

Yn y lansiad, bydd Jeremy Miles yn dweud:

"Bydd bod yn berchen ar ein cwmni ynni adnewyddadwy ein hunain ar ran Cymru yn ein galluogi nid yn unig i ddatblygu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'r amgylchedd naturiol, ond yn bwysicaf oll i roi'r gallu inni, a phobl Cymru, i dderbyn enillion yr hyn a fydd yn fuddsoddiad sylweddol.

"Mae gennyn ni ffordd hir o'n blaenau ac ni fyddwn yn dechrau cynhyrchu incwm i Gymru am nifer o flynyddoedd – ond mae'r gwaith i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein hynni yn dechrau heddiw."

 Dywedodd Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni y Deyrnas Unedig:

"Bydd pobl Cymru yn elwa'n fawr o'r ynni glân cynaliadwy o Gymru gan Drydan Gwyrdd Cymru.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni wneud Prydain yn bŵerdy ynni glân, gan gynnwys amlinellu camau cyntaf Great British Energy, rhoi hwb i'n hannibyniaeth ynni a gostwng biliau unwaith ac am byth."