English icon English

Sinema Cymru: rownd cyllido newydd i hybu ffilmiau Cymraeg

Sinema Cymru: new round of funding to boost Welsh language film

Yn dilyn ei llwyddiant llynedd, mae ail rownd gyllido wedi agor i helpu ffilmiau hir Cymraeg sydd â photensial yn rhyngwladol ac ar y sgrin fawr.

Mae Sinema Cymru, menter gydweithredol rhwng S4C, Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi ail rownd o gyllid gyda'r nod o ddatblygu sawl ffilm nodwedd Cymraeg y flwyddyn gyda'r bwriad y bydd o leiaf un o'r ffilmiau hynny'n cael ei datblygu ar gyfer cyllid cynhyrchu.

Bydd y gronfa eleni hefyd yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau talentog gyda photensial uchel yn gynt yn y broses er mwyn sicrhau dyfodol cyffrous i gynhyrchu ffilmiau nodwedd Cymraeg yng Nghymru.

Yn dilyn llwyddiant y rownd gyllido gyntaf y llynedd - pan ddaeth nifer fawr o geisiadau o ansawdd uchel i law ar gyfer y cynllun - dewiswyd pedwar prosiect ar gyfer eu datblygu:

Gorllewin Gwyllt – Awdur/Cyfarwyddwr: Carys Lewis, Awdur: Bethan Leyshon 

Pijin - Awdur: Angharad Elen, Cyfarwyddwr: Euros Lyn, Triongl

Lluest - Awdur: Ed Talfan, Cyfarwyddwr: Gareth Bryn, Severn Screen

Estron – Awdur: Roger Williams, Cyfarwyddwr: Lee Haven Jones, Joio Cyf

Mae'r ail rownd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan wneuthurwyr ffilmiau profiadol o bob cwr o Gymru.

Mae'r Gronfa, sy'n cael ei gweinyddu gan Ffilm Cymru Wales, yn neilltuo hyd at £30,000 ar gyfer prosiectau unigol sydd â'r potensial i fod yn barod i'w cynhyrchu o fewn 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod datblygu, gyda dyfarniadau llai o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau mewn camau cynharach. 

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy gyflymu'r broses o greu ffilmiau annibynnol mentrus ac anghonfensiynol, ac a allai gael eu rhyddhau i sinemâu rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, a chymorth datblygu gyrfa hefyd i dimau creadigol, gan gynnig cynlluniau datblygu pwrpasol ynghyd â chyllid ar gyfer prosiectau.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

"Mae cronfa Sinema Cymru yn dangos ein hymdrech i gyflwyno mwy o ffilmiau Cymraeg annibynnol, ac rydym yn arbennig o awyddus i hyrwyddo lleisiau sydd wedi'u tangynrychioli ac i wthio ffiniau'r hyn a ddisgwylir gan ffilmiau Cymraeg.

"Mae llwyddiant y pedwar prosiect a ariannwyd yn ein rownd gyntaf yn dangos cyfoeth y talent a'r creadigedd yng Nghymru. Rydym am i'r gronfa hon ysbrydoli creadigrwydd a helpu i hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg i'r byd. Edrychwn ymlaen at weld y syniadau amrywiol a ddaw yn ystod yr ail rownd gyllido hon. Pob lwc!"

Meddai Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle:

"Mae'r sinema yn gyfrwng arbennig sy'n caniatáu inni ddiddanu, cysylltu â'n cynulleidfaoedd a dechrau sgyrsiau ystyrlon. Mae hefyd yn goresgyn rhwystrau iaith a daearyddiaeth. Mae Sinema Cymru yn syniad cyffrous iawn gan ei fod yn ein helpu i arddangos Cymru, ein hiaith, ein talent unigryw a'n straeon i gynulleidfaoedd lleol a byd-eang."

Dywedodd Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales:

"Rydym yn falch iawn cael bod yn bartner gydag S4C a Cymru Greadigol ar gyfer y gronfa Gymraeg hon. Mae ffilmiau annibynnol yn meithrin talent amrywiol, sy'n hanfodol wrth i lai o ffilmiau cynhenid gael eu cynhyrchu yn y DU. Rydym yn falch o'n pedwar tîm a phrosiect a ddaeth trwy'r rownd gyntaf, ac rydyn ni'n disgwyl ymlaen at glywed lleisiau newydd yr ail rownd hon."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw dydd Llun 16 Mehefin. I wneud cais ewch i https://ffilmcymruwales.com/funding-and-training/sinema-cymru

Nodiadau i olygyddion

Creative Wales

Asiantaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yw Cymru Greadigol , a sefydlwyd i hyrwyddo a thyfu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Ein ffocws yw cynnig cyllid, cymorth ac arweiniad ar draws ystod o sectorau o Ffilm a Theledu, Animeiddio – gan gynnwys Technoleg Trochi, AR/VR – i Gemau, Cerddoriaeth a Chyhoeddi - gan sicrhau mai Cymru yw un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.

Rydym yn angerddol am greu cyfleoedd i bobl yn y diwydiant. Boed hynny'n hyfforddiant lefel mynediad neu'n ddatblygu ac uwchsgilio pobl sydd eisoes yn gweithio yn ein sectorau creadigol. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, p'un a ydynt yn bobl ifanc, yn newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant neu'n aelodau o'n gweithlu talentog a phrofiadol.

O ddatblygu stiwdios i leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, datblygwyr gemau annibynnol a chynyrchiadau rhyngwladol mawr, rydym yn darparu cyllid, cyngor arbenigol ac yn helpu pobl yn y diwydiant i greu cysylltiadau a fydd yn meithrin datblygiad prosiectau creadigol o bob maint. Rydym hefyd yn hyrwyddo cynaliadwyedd, gwaith teg, a chyfle cyfartal i bawb sy'n gweithio ar draws ein sectorau creadigol.

P'un a ydym yn cefnogi talent cartref neu'n gweithio i ddenu prosiectau creadigol rhyngwladol i Gymru, ein nod bob amser yw cryfhau'r diwydiant yn y tymor hir a chreu cyfleoedd cyffrous a gwerth chweil i genedlaethau'r dyfodol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i cymrugreadigol.cymru a'n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:
Instagram @cymrugreadigol 
X @CymruGreadigol
LinkedIn cymru-greadigol-creative-wales

 

 Ffilm Cymru Wales

Ffilm Cymru Wales yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru. Ymrown i hyrwyddo a chynnal diwydiant ffilmiau cryf i Gymru; un y gallwn oll fod yn falch o ddweud ei bod yn perthyn i ni. Gwnawn hyn drwy ddarparu cyllid a hyfforddiant i wneuthurwyr ffilmiau addawol a sefydledig o Gymru, cynnig profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled Cymru, a datblygu sgiliau a llwybrau gyrfa newydd i bobl drwy amryw raglenni hyfforddiant.

Ymhlith ei gredydau diweddar mae Mr Burton, Chuck Chuck Baby, Kensuke's Kingdom a Timestalker. Mae’r cynyrchiadau sydd i ddod yn cynnwys Brides, Madfabulous a The Man In My Basement.

www.ffilmcymruwales.com

 

S4C

Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Mae S4C yn dosbarthu ystod eang o raglenni gan gynnwys drama, rhaglenni dogfen, newyddion, cerddoriaeth, adloniant, chwaraeon byw a rhaglenni plant. Mae cynnwys ar-lein yn cynnwys ein brand HANSH unigryw gyda chynnwys wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16-34 oed. Mae S4C Clic – chwaraewr S4C a gwasanaeth ar alw yn darparu cynnwys, dal i fyny, deunydd archif a setiau bocsys unigryw. Mae holl gynnwys S4C hefyd ar gael ar alw drwy BBC iPlayer.