English icon English

Darllenwyr ifanc yn barod am antur ddarllen yr haf

A novel idea! Young readers set for summer reading adventure

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn cael eu dathlu yr haf hwn gyda rhaglen gyffrous wedi'i chynllunio i ennyn diddordeb plant mewn darllen yn ystod gwyliau'r ysgol a buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau digidol.

Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda'r thema 'Gardd o Straeon', lle mae creaduriaid hudolus, straeon gwyllt a rhyfeddodau natur yn dod yn fyw.

I gwblhau Sialens Ddarllen yr Haf, gofynnir i blant ddarllen o leiaf chwe llyfr, gan ddewis o straeon, nofelau graffig, llyfrau ffeithiol, neu lyfrau llafar. Gall y rhai sy'n ymuno â'r sialens ddatgloi gwobrau, darganfod pethau newydd i'w darllen, ac ennill medal a thystysgrif am eu hymdrechion.

Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru hefyd yn cynnal amseroedd stori a gweithgareddau thematig drwy gydol yr haf i annog plant i ymuno â'r sialens.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r rhaglen yn rhannol - drwy Gyngor Llyfrau Cymru. Mae'n denu dros 33,000 o blant a phobl ifanc ac yn eu hannog i fanteisio ar fenthyg llyfrau o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae platfform digidol arloesol i lyfrgelloedd Cymru gyfan sy'n dod â phob un o 22 o awdurdodau Cymru at ei gilydd ar yr un system am y tro cyntaf hefyd wedi'i lansio'n ddiweddar.

Mae'r prosiect gwerth £900,000 - dan arweiniad Cyngor Gwynedd - yn helpu llyfrgelloedd i ymuno yn ddigidol, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at wasanaethau'n fwy cyfleus.

Mae'r cyllid hwn hefyd yn galluogi gwell cydweithio rhwng llyfrgelloedd ac yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau llyfrgell a drysorir ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

"Mae digideiddio gwasanaethau llyfrgell nid yn unig yn rhywbeth sy'n golygu eu bod yn haws i'w defnyddio, ond mae'n rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer eu hirhoedledd. Hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd am eu gwaith caled i sicrhau bod pob awdurdod yn gallu defnyddio'r platfform yn hawdd.

"Mae'r mentrau hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod llyfrgelloedd yn parhau i fod yn ganolfannau cymunedol bywiog sy'n ysbrydoli dysgu, creadigrwydd a chysylltiad ar draws pob oedran. Trwy arloesi digidol a rhaglenni haf difyr, mae llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi llythrennedd, dysgu a chydlyniant cymunedol ledled Cymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Rydym yn ariannu Sialens Ddarllen yr Haf unwaith eto i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i fwynhau darllen yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r Sialens yn helpu i danio dychymyg plant a darganfod awduron a llyfrau newydd, yn ogystal â datblygu eu sgiliau darllen dros y gwyliau."