Strategaeth Ynni Genedlaethol i amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer ynni yng Nghymru
National Energy Strategy to outline new vision for energy in Wales
- Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n mireinio ei dull ar gyfer Strategaeth Ynni Genedlaethol.
- Bydd y Strategaeth yn nodi gweledigaeth ar gyfer sector ynni adnewyddadwy sy'n cadw gwerth yng nghymunedau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n mireinio ei dull ar gyfer Strategaeth Ynni Genedlaethol, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system ynni carbon isel sy'n cadw gwerth yng nghymunedau Cymru.
Bydd y canlyniad yn mapio anghenion ynni Cymru nawr ac yn y dyfodol a'r ffordd mae'n bwriadu darparu'r seilwaith sydd ei angen i'w diwallu. Bydd yn blaenoriaethu perchnogaeth gymunedol ystyrlon, lleihau biliau a sicrhau bod cymunedau Cymru yn derbyn manteision llawn ynni carbon isel.
Bydd hefyd yn gweld targedau ynni adnewyddadwy yn cael eu disodli gan ostyngiadau mewn allyriadau, ac yn blaenoriaethu sylfaen dystiolaeth glir i ystyried opsiynau o ran lle y dylid cynnal datblygiadau yng Nghymru.
Bydd cymunedau yn ganolog i'r dull hwn – bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried nid yn unig ble y gellir cyflawni prosiectau, ond sut y gallan nhw sicrhau cefnogaeth cymunedau lleol.
Bydd angen newidiadau i'r ffordd mae ynni yn cael ei gynllunio, gan sicrhau bod maint, lleoliad ac effaith datblygiadau'n cael eu hystyried yn briodol, wrth ddiogelu tir amaethyddol cynhyrchiol. Mae hyn yn newid sylweddol yn y ffordd y mae ynni'n cael ei ddarparu yng Nghymru.
Ymwelodd yr Aelod Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, â Phorthladd Mostyn a Phorthladd Aberdaugleddau yr wythnos hon i drafod eu rôl hanfodol wrth gefnogi'r sector ynni gwynt ar y môr.
Dywedodd:
"Dim er mwyn yr amgylchedd yn unig mae angen y newid i sero net, mae hefyd yn gyfle economaidd mawr, trawsnewidiol. Ein huchelgais yw sicrhau twf cynaliadwy, denu rhagor o fuddsoddiadau, creu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi cymunedau ffyniannus ledled Cymru.
"Rydyn ni hefyd yn benderfynol o sicrhau y bydd y cymunedau lle mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu wir ar eu hennill drwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd. Wrth inni gynhyrchu ynni glân yng Nghymru, bydd rhagor ohono fe o dan berchnogaeth pobl yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei arwain gan ein dull o greu Cwmni Ynni Cyhoeddus Cymru.
"Byddwn ni hefyd yn datblygu Trydan Gwyrdd Cymru i greu un cwmni ynni cenedlaethol i gynyddu perchnogaeth gymunedol a lleol ar ynni adnewyddadwy, wrth sicrhau bod datblygiadau ynni'n cael eu hystyried yn briodol drwy'r system gynllunio i gydbwyso effeithiau lleol â chyflawni effeithlon.
"Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, rydyn ni'n bwrw ymlaen â'n polisi ar seilwaith trydan tanddaearol 132kV ac is. Bydd y Strategaeth Ynni Genedlaethol yn nodi'r camau gweithredu a'r amserlenni ar gyfer cyflawni'r holl newidiadau hyn."
Dywedodd Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porth Milford Haven:
“Bydd porthladdoedd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi twf economi carbon isel. Fel porth mwyaf Cymru a phrif borth ynni’r DU, edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r llywodraeth a diwydiant i helpu cyflawni’r weledigaeth hon.
"Gall Cymru leihau allyriadau tra'n cadw'r gallu diwydiannol, swyddi medrus a seilwaith ynni sy'n sail i'n heconomi, ac mae Ddwrffordd Milford Haven mewn sefyllfa unigryw i helpu cyflawni’r uchelgais hon tra'n sicrhau bod y manteision yn aros o fewn cymunedau Cymreig.”
Dywedodd Jim O'Toole, Cyfarwyddwr Rheoliol Porthladd Mostyn:
“Roedd Porthladd Mostyn yn falch o groesawu'r Aelod o'r Cabinet i'n Porthladd ac i ddysgu am gynnydd Strategaeth Ynni Genedlaethol Cymru. Rhoddodd ei ymweliad gyfle hefyd i ni roi gwybodaeth iddo am ein cynlluniau i ehangu gallu adeiladu ein porthladd yn barod ar gyfer y cenhedlaeth nesaf o brosiectau ynni morol yn Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd.”