English icon English

Symud i archwiliadau deintyddol blynyddol i wella’r nifer sy’n cael gofal deintyddol y GIG yng Nghymru

Move to yearly dental check-ups to improve access to NHS dentistry in Wales

Bellach, dim ond unwaith y flwyddyn y bydd angen i’r mwyafrif o oedolion yng Nghymru weld deintydd, yn sgil ad-drefnu fel y gall mwy o bobl gael gofal deintyddol gan y GIG.

Heddiw, nododd Prif Swyddog Deintyddol newydd Cymru, Andrew Dickenson, newidiadau a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl weld un o ddeintyddion y GIG ac i ddeintyddion ganolbwyntio ar y rhai y mae angen cymorth arnynt.

Bydd newidiadau i gontractau deintyddol y GIG ac i’r arfer hen ffasiwn o alw pobl yn ôl i gael archwiliadau bob chwe mis yn helpu i ryddhau amser deintyddion. Bydd hefyd yn galluogi practisau i dderbyn hyd at 112,000 o gleifion newydd y flwyddyn, a fydd yn cael eu trin gan y GIG.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, cafwyd gostyngiad cyson mewn pydredd dannedd. Erbyn hyn, mae mwy o oedolion yn cadw eu dannedd a chafwyd gostyngiad cyson yn nifer y bobl sydd â dannedd gosod.

Dywedodd yr Athro Dickenson: “Bellach, mae pobl yn llawer gwell o ran cynnal iechyd y geg. Mae hyn, ynghyd â gwasanaeth rhagorol ein deintyddion, yn adlewyrchu manteision brwsio’r dannedd ddwywaith y dydd, yr arfer gyffredin o ddefnyddio past dannedd fflworid, ac osgoi byrbrydau a diodydd llawn siwgr rhwng prydau bwyd.

“Does dim angen i’r mwyafrif o oedolion weld eu deintydd bob chwe mis bellach. Drwy symud oddi wrth archwiliadau sy’n aml yn ddiangen, bydd gan ddeintyddion fwy o amser i ddarparu’r gofal personol ac wedi’i deilwra sydd ei angen ar bobl, a bydd yn haws derbyn cleifion newydd i gael eu trin gan y GIG.”

Yn hytrach na gwiriadau bob chwe mis, bydd deintyddion yn creu cynllun gofal personol gyda phobl ac yn eu cynghori ynglŷn â pha mor aml y mae angen iddynt ddod i mewn.

Bydd hyn yn galluogi’r bobl hynny y mae angen gofal amlach arnynt i gael eu gweld yn fwy rheolaidd na’r drefn newydd o alw cleifion i mewn unwaith y flwyddyn. Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed yn parhau i gael archwiliadau bob chwe mis.

Mae mwy na thri chwarter (78%) o bractisau deintyddol y GIG wedi ymrwymo i amrywiad i gontract deintyddol Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod mwy o bractisau’n canolbwyntio ar ofal a thriniaeth ataliol, yn hytrach na’r rhigol o gyflawni’r targedau gweithgaredd a oedd yn ofynnol o dan yr hen system.

Amcangyfrifir y bydd y newidiadau hyn yn creu lle i 112,000 o gleifion ychwanegol ledled Cymru a fydd yn cael eu trin gan y GIG.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am recriwtio mwy o ddeintyddion a staff deintyddol drwy gynnig cymorth fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gyda phractisau yng Nghymru, a thrwy ddatblygu trefniadau gweithio newydd i ddenu mwy o ddeintyddion i weithio yma.

Ychwanegodd yr Athro Dickenson: “Drwy gynyddu nifer y deintyddion a’u helpu i weithio’n wahanol gyda’u cleifion, gallwn sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd am gael gofal deintyddol y GIG yn gallu cael y gofal hwnnw.”

Bydd pawb y mae angen gofal deintyddol brys arnynt, sef y rhai sydd mewn poen difrifol, y mae eu hwyneb wedi chwyddo, neu sydd â thymheredd uchel, yn cael eu gweld yn gyflym a dylent gysylltu ag 111 i gael eu hatgyfeirio am driniaeth.

Os ydych yn cael trafferth cofrestru gyda phractis deintyddol sy’n cynnig gwasanaethau’r GIG yn eich ardal, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i bractis. Efallai y bydd yn rhaid ichi aros ychydig yn hwy am ofal deintyddol arferol wrth i ddeintyddion weithio drwy achosion sydd wedi cronni yn sgil y pandemig a gweithredu arferion gwaith newydd.