English icon English
KW visit-2

Symud tuag at Gwricwlwm newydd i Gymru

Moving towards a new Curriculum for Wales

Heddiw (dydd Mawrth, 13 Hydref) cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams gynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r camau nesaf ar daith ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022 yn 2022.

Heddiw (dydd Mawrth, 13 Hydref) cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams gynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r camau nesaf ar daith ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno Cwricwlwm newydd Cymru yn 2022.

Mae'r cynllun gweithredu, Cenhadaeth Ein Cenedl yn dangos y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws a'i hymateb i'r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yr wythnos diwethaf.

Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ers 2016 pan gyhoeddwyd y cynllun gweithredu cyntaf. Ymysg y prif lwyddiannau sy’n cael sylw mae’r canlynol:

  • Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella sgôr PISA ar draws y tri maes
  • mae nifer y disgyblion o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n ennill o leiaf un Radd C mewn TGAU Gwyddoniaeth wedi cynyddu 30%
  • mae addysg gychwynnol athrawon wedi'i diwygio'n llwyddiannus, gyda chynnydd o 50% mewn ceisiadau
  • mae buddsoddiad uwch nag erioed mewn dysgu proffesiynol athrawon, a’r cyflog cychwynnol yn uwch
  • 100% o ysgolion bellach yn defnyddio band eang cyflym iawn, o'i gymharu â 37% yn 2016.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Roedd yn amhosibl rhagweld y byddem yn agor y bennod hon o hanes addysg Cymru o dan yr amgylchiadau hyn.

"Mae tîm o 3.2 miliwn o bobl wedi bod yn rhan o’r ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeirws, ac mae'r teulu addysg wedi ymateb i'r her gyda'i gilydd, gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cefnogaeth o ran eu lles a'u gallu i ddysgu.

"Mae'r diweddariad i Cenhadaeth Ein Cenedl yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn cydnabod yr ymdrechion a'r llwyddiannau a wnaed gyda’n gilydd hyd yma, yn ystyried argymhellion yr OECD, ac yn mapio cam nesaf y daith.

"Mae ein diwygiadau addysg, sy’n canolbwyntio ar y Cwricwlwm i Gymru, yn ymdrech genedlaethol ar y cyd.

"Mae sylfeini cadarn yn eu lle, ac wrth gydweithio byddwn yn parhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder y cyhoedd."

Ochr yn ochr â chynllun gweithredu diweddaraf Cenhadaeth Ein Cenedl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen hefyd yn nodi ein disgwyliadau o'r hyn y bydd gwireddu'r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. 

Crëwyd 'Cwricwlwm i Gymru: y daith hyd at 2022' i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm.

Mae'r ddogfen wedi'i chyd-lunio â phartneriaid strategol gan gynnwys ymarferwyr, consortia rhanbarthol ac Estyn, ac mae mewn ymateb uniongyrchol i adolygiad yr OECD.

Dywedodd y Gweinidog: "Rwy'n llwyr gydnabod yr amgylchiadau heriol y mae ysgolion yn eu hwynebu. Er nad oes angen gweithredu ar y ddogfen ddisgwyliadau ar hyn o bryd, mae'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer diwygio'r cwricwlwm. 

"Mae'r ddogfen hon yn nodi rolau a chyfrifoldebau gwahanol rannau'r system addysg wrth gefnogi ysgolion. 

"Mae cyhoeddi'r disgwyliadau hyn yn garreg filltir bwysig ar y daith i newid y cwricwlwm, ond dim ond pan fydd eu staff a'u dysgwyr yn barod y dylai ysgolion eu defnyddio."