Taith, camera, action! Mae'r Unol Daleithiau a Chymru yn ymuno mewn rhaglen gyfnewid ryngwladol i ddysgu am y diwydiant ffilm a theledu
Taith, camera, action! US and Wales team up in an international film exchange programme
Mae grŵp o ddysgwyr o Califfornia wedi ymuno â grŵp ieuenctid o Gymru mewn gwersyll am bythefnos i ddysgu am y cyfryngau digidol drwy ymweliad a wnaed yn bosibl diolch i raglen Taith.
Mae Taith yn rhaglen gyfnewid ryngwladol unigryw yng Nghymru sy'n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc a staff gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid â phartneriaid rhyngwladol. Mae Taith wedi ymrwymo'n arbennig i gefnogi unigolion o gymunedau difreintiedig a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn cyfleoedd cyfnewid diwylliannol.
Roedd rhaglen haf Crewyr Cynnwys Caerdydd 2025, a drefnwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd, yn canolbwyntio ar adrodd straeon, creu ffilmiau, golygu a thechnegau cynhyrchu rhithwir. Cydweithiodd naw dysgwr o Ysgol Uwchradd Carlsbad â 45 o bobl ifanc o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd i rannu eu sgiliau creadigol a'u gwybodaeth ddiwylliannol.
Yn gynharach eleni, teithiodd 11 o bobl ifanc 13–17 oed o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd i America fel rhan o raglen gyfnewid Taith, gan gysylltu â dosbarth o fyfyrwyr sy'n astudio'r cyfryngau digidol yn Ysgol Uwchradd Carlsbad sydd wedi ennill enw da am fod yn un o’r lleoedd gorau yn y wlad i astudio’r cyfryngau digidol. Roedd eu hymweliad yn cynnwys mynd i Gonfensiwn Rhwydwaith Teledu Myfyrwyr, lle cawsant gyfle i ymuno â 3,500 o bobl greadigol ifanc i brofi eu gallu wrth greu ffilmiau a chymryd rhan mewn gweithdai ymarferol.
Yn ystod eu hamser yn Califfornia, roedd myfyrwyr Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi cael cyfle i arwain Rhaglen Ddarlledu Ysgol Uwchradd Carlsbad, sy’n ddarllediad newyddion dyddiol a chanddo dros 3,000 o wylwyr, gan ennill profiad ymarferol o weithio y tu blaen a'r tu ôl i'r camera. Roeddent hefyd wedi ymweld â Fox 5 San Diego, lle cyfarfuant â darlledwyr newyddion, a chawsant gyfle i archwilio llwybrau gyrfa yn y cyfryngau, gan gynnwys ymddangos ar raglen deledu fyw hyd yn oed.
Dywedodd Emil, un o'r bobl ifanc o Gaerdydd a gymerodd ran yn y daith i Califfornia:
"Y daith hon a wnaeth imi sylweddoli y gallwn i wneud hyn o ddifri' fel proffesiwn. Achos, ro’n i yng nghanol pobl a oedd yn gwneud hynny, a ches i fy ysbrydoli gan yr holl opsiynau posibl."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Rwy'n falch iawn bod Taith yn dod â gwneuthurwyr ffilmiau ifanc o Gymru a Califfornia at ei gilydd mewn ffordd mor greadigol ac ystyrlon. Mae'r ffordd y mae'r bobl ifanc talentog hyn yn cydweithio, yn rhannu eu sgiliau, ac yn dysgu o ddiwylliannau ei gilydd yn wirioneddol ysbrydoledig.
"Mae'r cyfnewid hwn yn dangos beth yw hanfod Taith. Hynny yw, mae'n chwalu rhwystrau ac yn creu cyfleoedd i'n pobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, yn ogystal â chryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'n partneriaid rhyngwladol. Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd am helpu i drefnu'r rhaglen wych hon."
Mae rhaglen Taith wedi'i hymestyn tan 2028.