English icon English
Tai cynnes

Talebau tanwydd yn helpu teuluoedd ledled Cymru i gadw'n gynnes y gaeaf hwn

Fuel vouchers helping families across Wales keep warm this winter

Mae plant ledled Cymru yn aros yn gynnes gartref y gaeaf hwn, diolch i dalebau tanwydd sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chostau ynni aelwydydd.

Cyn Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi ar 17 Hydref, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol â'r Sefydliad Banc Tanwydd i weld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu aelwydydd sy'n cael trafferth talu costau ynni cynyddol.

Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £6.9 miliwn yng ngwaith hanfodol y Sefydliad ledled Cymru, gyda £600,000 arall wedi'i ymrwymo ar gyfer 2025-26.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sefydliad Banc Tanwydd, Matthew Cole: "Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac rydyn ni'n falch iawn o hynny. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gallu darparu tanwydd ychwanegol brys i fwy na 200,000 o bobl ledled Cymru - bron i 90,000 ohonynt yn blant. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd wedi ein galluogi i ddarparu tanwydd i dros 500 o aelwydydd sy'n byw oddi ar y grid nwy ac i ddarparu mwy na 3,000 o flancedi gwresogi i bobl sy'n cael trafferth gwresogi eu cartref cyfan. Ni allwn fod yn fwy balch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd a'r gwahaniaeth rydyn ni wedi'i wneud i bobl yng Nghymru."

Mae'r cymorth hwn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi. Rhwng 2022 a 2026, mae wedi buddsoddi dros £7 biliwn i gefnogi aelwydydd drwy raglenni i leddfu pwysau ariannol, helpu i wneud y mwyaf o incwm a helpu i gadw mwy o arian ym mhocedi pobl. Ers 2019, mae dros £27 miliwn wedi'i gyfeirio at sefydliadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd.

Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth yn parhau â'r ymrwymiad hwn gyda mwy na £30 miliwn wedi'i ddyrannu eleni i helpu aelwydydd incwm isel i wella eu heffeithlonrwydd ynni a chael mynediad at atebion gwresogi fforddiadwy.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwella sut mae pobl yn cael mynediad at gymorth drwy Siarter Budd-daliadau Cymru. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yn bwrw ymlaen â gweithredu ymrwymiadau'r Siarter sy'n canolbwyntio ar y person. Trwy symleiddio eu prosesau ar gyfer hawlio budd-daliadau Cymru, mae awdurdodau lleol yn ei gwneud hi'n haws i bobl fanteisio ar eu hawliau, ac maent yn sicrhau bod pawb sy'n ceisio cymorth yn cael eu trin â dealltwriaeth a pharch.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae ffactorau byd-eang fel costau ynni cynyddol wedi rhoi pwysau enfawr ar aelwydydd. Rydym yn parhau i fod yn benderfynol o sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu dianc o dlodi, gydag urddas a chyfleoedd gwirioneddol ar gyfer eu dyfodol.

"Rwy'n falch o'r cynnydd rydyn ni'n ei wneud gyda'n partneriaid, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwn i greu Cymru lle gall pob teulu ffynnu."

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ffonio Advicelink Cymru ar 0808 250 5700 i weld pa gymorth y mae ganddynt hawl iddo.