Taliad bonws i staff y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol
NHS and social care staff to benefit from bonus payment
Heddiw (dydd Mercher 17 Mawrth), mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad bonws i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a staff gofal cymdeithasol i gydnabod eu cyfraniad eithriadol yn ystod pandemig COVID-19.
Mae'r taliad untro ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol yn cyfateb i £735 y pen, i dalu am y gyfradd dreth sylfaenol a chyfraniadau yswiriant gwladol. Ar ôl didyniadau bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn £500.
Amcangyfrifir y bydd 221,945 o bobl yng Nghymru yn elwa ar y taliad, gan gynnwys 103,600 o staff gofal cymdeithasol, 90,000 o staff GIG Cymru, 2,345 o fyfyrwyr ar leoliadau a 26,000 o staff gofal sylfaenol (gan gynnwys staff fferylliaeth, ymarfer meddygol, deintyddol ac optometreg).
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething:
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff y Gwasanaeth Iechyd a staff gofal cymdeithasol Cymru wedi ymroi’n llwyr ac yn ddewr i’w gwaith, yn ddi-baid o ddechrau’r pandemig hyd yr ail don bresennol.
“Bydd y pandemig wedi effeithio’n fawr ar eu hiechyd corfforol a meddyliol ac ar eu lles yn eu bywydau personol a phroffesiynol.
“Mae’r taliad hwn yn ffordd o ddiolch i’n gweithlu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ym maes gofal cymdeithasol am eu cyfraniad eithriadol i ddiogelu Cymru.”
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac undebau llafur i gadarnhau manylion y cynllun.
Daw’r bonws ar ben y taliad arbennig o £500 i weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020 i gydnabod eu gwaith yn ystod ton gyntaf y pandemig. Bydd y bonws hwn yn cael ei roi i grŵp ehangach o weithwyr gofal cymdeithasol gan gynnwys staff gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.