01.05.25 Ffermio Bro 2

Taliadau Uwch ar Gael: Llywodraeth Cymru yn cymell plannu coed yn gynnar gyda grantiau uwch

Higher Payments Available: Welsh Government Rewards Early Tree Planting with Enhanced Grants

Gall perchnogion tir a ffermwyr ledled Cymru wneud cais am grantiau plannu coed uwch o'r wythnos nesaf ymlaen, gyda thaliad cymhelliant newydd o £825 yr hectar ar gael ar gyfer creu coetir llydanddail brodorol.

Mae'r taliad untro ychwanegol hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymell plannu coed yn gynnar drwy daliadau uwch dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r cymhelliant o £825 yr hectar ochr yn ochr â chyfraddau Grant Creu Coetir sydd newydd eu hadolygu, sy'n talu hyd at £13,294 yr hectar (gan gynnwys taliadau cynnal a chadw a phremiwm am 12 mlynedd) yn dibynnu ar yr opsiwn plannu a ddewisir.  

Bydd ceisiadau am gymorth Creu Coetiroedd yn agor eto ar 4 Mawrth 2026, gan roi cyfle o'r newydd i ffermwyr ledled Cymru gyflwyno cynigion plannu coed sy'n gweithio i'w busnesau. Mae'r taliad uwch ar gael ar gyfer plannu coetir llydanddail brodorol yn bennaf, sy'n cynnwys dim mwy nag 20% o goed conwydd, ac sy'n darparu o leiaf 800 o goesynnau yr hectar.

I'r rhai sy'n ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Gweithred Gyffredinol i gwblhau Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi / Gwrychoedd, a phlannu o leiaf 0.1 hectar erbyn diwedd 2028. Mae'r cymorth sydd ar gael o dan y grantiau plannu coed hyn yn daliadau ychwanegol uwchlaw'r Taliad Cyffredinol ac maent ar gael i gefnogi gwaith plannu coed ac annog gwaith plannu y tu hwnt i'r gofyniad lleiaf.  Bydd rhagor o fanylion am Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol eraill yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth.  

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “Mae hwn yn gyfle gwych i berchnogion tir a ffermwyr archwilio a oes ganddynt dir a fyddai'n elwa ar blannu coed ychwanegol, megis integreiddio lleiniau cysgodi neu amaeth-goedwigaeth i ddarparu manteision cysgod a lloches i dda byw.  Mae'r taliad yn cydnabod y manteision i ecosystemau a ddarperir gan goetir brodorol, gan gynnwys gwell bioamrywiaeth, dal carbon ac ansawdd aer.  

“Mae'r cymorth hwn yn rhoi cyfle o'r newydd i ffermwyr ledled Cymru gyflwyno cynigion plannu coed sy'n gweithio i'w busnesau. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd ar gyfer 2026 wedi'u cynllunio i wneud gwaith creu coetir yn symlach, yn fwy hyblyg a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well â realiti ymarferol ar ffermydd, gan barhau i ddarparu manteision amgylcheddol pwysig ar gyfer y tymor hir.”

Gwelliant mawr ar gyfer eleni yw cyflwyno eitemau cyfalaf newydd sy'n gysylltiedig â dŵr, sy'n cynnwys seilwaith fel cafnau, pibellau a gatiau dŵr i ategu gwaith plannu ar lannau afonydd. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth ac yn helpu i ddiogelu cyrsiau dŵr rhag effeithiau negyddol newid hinsawdd, fel tymheredd uwch. Bydd hefyd yn darparu llain glustogi werthfawr rhag gweithgareddau amaethyddol i wella ansawdd dŵr.

Newid arall yw cynyddu hyd contract y Cynllun Grant Creu Coetir i ganiatáu hyd at ddwy flynedd i gwblhau gwaith plannu ar raddfa fwy. Mae'r dull hwn yn cynnig hyblygrwydd i'r rhai sy'n delio â ffactorau tymhorol, argaeledd contractwyr neu heriau'r gadwyn gyflenwi.