English icon English

Targedau cynharach ar gyfer brechu yn erbyn COVID a blaenoriaethau newydd yn cael eu cadarnhau i Gymru

Earlier Covid vaccine target dates and new prioritisations confirmed for Wales

Mae strategaeth frechu i Gymru ddiwygiedig wedi cael ei chyhoeddi, sy’n cadarnhau bod dyddiadau targed allweddol cynharach wedi’u pennu a bod cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mewn perthynas â blaenoriaethu ar gyfer y cam nesaf yn y broses frechu yn cael ei fabwysiadu.

Mae’r targedau wedi cael eu diweddaru fel hyn: bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bob grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill, ac i’r boblogaeth ehangach sy’n oedolion erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae’r strategaeth ddiwygiedig hefyd yn cadarnhau bod Cymru, yn unol â gwledydd eraill y DU, yn mynd i ddilyn cyngor dros dro y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar flaenoriaethu mewn perthynas â’r boblogaeth ehangach sy’n oedolion.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: “Mae cynnydd aruthrol wedi cael ei wneud yn y gwaith o gyflwyno’r brechlyn ers i’n strategaeth gael ei chyhoeddi gyntaf chwe wythnos yn unig yn ôl.

Rwy’n falch o gadarnhau ein bod wedi symud dau ddyddiad targed allweddol ymlaen, ond rhaid imi bwysleisio unwaith eto bod hyn yn ddibynnol ar gael y cyflenwad angenrheidiol oddi wrth Lywodraeth y DU. 

Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth y DU wedi symud y dyddiad y bydd Cymru yn cael rhywfaint o’i chyflenwad ymlaen. Ond, ar sail yr wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd, mae pryderon ynghylch y math o gyflenwad a’r amserlen ar gyfer ei gyflenwi. Rydyn ni bob amser wedi dweud y gallem fwrw ati yn gyflymach hyd yn oed, pe byddai’r cyflenwad ar gael inni.”

Dywedodd hefyd: “Mae’r diweddariad heddiw hefyd yn edrych yn ôl ar rai o lwyddiannau ein rhaglen hyd yma, ac mae’n darparu gwybodaeth am y dystiolaeth bwysig a hynod galonogol sy’n dechrau dod i’r amlwg mewn perthynas â’r ymdrech frechu.

Er ein bod ni’n parhau i gymryd agwedd hynod ofalus, mae wir yn ymddangos fel pe bai llawer o reswm dros fod yn obeithiol diolch i lwyddiant ein rhaglen frechu.”

Mae’r strategaeth ddiwygiedig i’w chael yma:

https://llyw.cymru/diweddariad-strategaeth-brechu-covid-19-chwefror-2021