English icon English

Taro'r nodyn cywir: Cronfa yn dyfarnu dros £700,000 i fusnesau cerddoriaeth Cymru

Striking the right note: Fund awards over £700,000 for Welsh music businesses

Trydedd rownd o gyllid yn cefnogi 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios a busnesau ledled Cymru.

Dyfarnwyd hyd at £40,000 yr un i 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios recordio, mannau ymarfer a chanolfannau celfyddydau o bob cwr o Gymru i roi hwb i'w gwaith a'u cynaliadwyedd ar gyfer eu llwyddiant hirdymor.

Bellach yn ei thrydedd rownd, mae Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol (MCF) yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 - cyfanswm o dros £700,000 yn y rownd hon - i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig, gan eu galluogi i nodi meysydd o'u gwaith a fyddai'n elwa ar fuddsoddiad.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn defnyddio'r cyllid i wella a chynyddu eu rhagolygon masnachol a'u cynaliadwyedd, gan fod o fudd i'r diwydiant cerddoriaeth ehangach yng Nghymru.

Ymhlith y rhai nodedig a fydd yn derbyn cyllid mae Steffan Pringle Music yn Rhondda Cynon Taf, sy'n bwriadu creu stiwdio recordio o'r radd flaenaf ochr yn ochr ag ystafell gymysgu a meistroli. Bydd Musicbox Studios yng Nghaerdydd hefyd yn mynd i'r afael â gwaith adnewyddu ac yn gwneud gwelliannau amgylcheddol fel rhan o gynlluniau moderneiddio.

Mae'r cyllid hefyd yn ymestyn i leoliadau a stiwdios ledled y wlad, gan gynnwys stiwdio recordio Sain yng Ngwynedd, ROC2 Studios yn Wrecsam, CWRW yn Sir Gaerfyrddin, a The Lost ARC ym Mhowys.

Mae Canolfan y Celfyddydau Memo ym Mro Morgannwg ymhlith y 21 hynny y dyfarnwyd cyllid iddynt yn y rownd hon. Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Ganolfan, Kate Long:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Cymru Greadigol am ddyfarnu cymorth grant i'n lleoliad i dalu am waith gosod system PA newydd o ansawdd uchel. Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn cryfhau'n sylweddol ein gallu i arloesi ac yn cynyddu graddfa ac amrywiaeth ein rhaglen gerddoriaeth fyw.

“Bydd y cyllid hefyd yn helpu i hyrwyddo ein perfformiadau cerddoriaeth wreiddiol ar lawr gwlad ac yn gwella ein partneriaethau gyda hyrwyddwyr cerddoriaeth, artistiaid teithiol, a phobl greadigol sy'n dod i'r amlwg, arddangosfeydd dan arweiniad pobl ifanc a chyd-gynyrchiadau.”

Mae'r Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiannau creadigol ledled Cymru. Mae lleoliadau cerddoriaeth, stiwdios recordio, a busnesau cysylltiedig yn chwarae rhan hanfodol yn nhirwedd ddiwylliannol ac economaidd Cymru, gan ddarparu cyfleoedd i dalent sy'n dod i'r amlwg ar un pryd â chyfrannu at economïau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

“Mae'r diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn hanfodol i ddatblygu cerddorion a chynulleidfaoedd ledled ein gwlad. Mae busnesau cerddoriaeth yn llwyfan bwysig lle gall talentau ddatblygu a thyfu a chael eu meithrin arni. Mae'r rownd ddiweddaraf hon o'r Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi'r seilwaith sy'n gwneud sîn gerddoriaeth Cymru mor fywiog.

“Trwy fuddsoddi yn y 21 busnes hyn, nid yn unig yr ydym yn cefnogi mentrau unigol - rydym yn cryfhau'r cymunedau maen nhw'n rhan ohonynt a holl ecosystem gerddoriaeth Cymru ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd."

Bydd ceisiadau ar gyfer rowndiau'r Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi maes o law.