Terfyn cyflymder 20mya i ddod yn realiti ar ffyrdd Cymru o'r haf hwn
20mph speed limit to become a reality on Welsh roads from this summer
Mae cynlluniau ar gyfer terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar ffyrdd Cymru wedi symud gam yn nes wrth i wyth ardal beilot i dreialu'r newid gael eu cadarnhau.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y bydd y symud yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau.
Bydd yr ardaloedd peilot yn cael cychwyn fesul cam o'r haf hwn tan ddiwedd y flwyddyn. Maent i ddod cyn cyflwyno'r cynllun cenedlaethol yn Ebrill 2023, a byddant yn helpu i ddatblygu trefniadau gorfodi a goresgyn unrhyw faterion annisgwyl cyn eu cyflwyno'n llawn.
Bwriedir i’r ardaloedd sydd wedi’u dewis gynrychioli gwahanol leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys pentrefi, trefi a dinasoedd. Byddant yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau, sy’n golyg y byddant yn datblygu trefniadau gorfodi a hefyd yn hyrwyddo gwerth y terfyn cyflymder newydd, gan gyflwyno’r achos y bydd lleihau cyflymder yn arwain at gymunedau mwy cydlynus a diogel.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r terfyn cyflymder newydd i wella diogelwch a helpu i wneud strydoedd Cymru yn leoedd mwy croesawgar i feicwyr a cherddwyr.
Mae canfyddiadau cychwynnol arolwg agwedd y cyhoedd cenedlaethol wedi canfod cefnogaeth i'r cynlluniau. Pan ofynnwyd iddynt beth hoffent i'r terfyn cyflymder fod ar eu stryd, Awgrymodd 92% o'r rhai a ddywedodd eu bod yn hoffi gweld newid, y byddant yn dymuno gweld terfyn cyflymder o 20mya neu'n is ac roedd 77% eisiau gweld y terfyn cyflymder hwn yn cael ei weithredu ledled yr ardal lle maen nhw'n byw.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl yn gam beiddgar a fydd yn arbed bywydau.
"Rydym wedi gwneud cynnydd o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd dros yr 21 mlynedd o ddatganoli, ond er gwaethaf ein hymdrechion sylweddol digwyddodd y gyfran uchaf o'r holl anafusion - 50% - ar ffyrdd 30mya yn ystod 2018. Ni ellir goddef hyn, felly mae'n rhaid i ostyngiad i 20 mya ar ein ffyrdd preswyl a threfol eraill lle mae gweithgaredd prysur i gerddwyr fod y ffordd ymlaen.
"Mae gostwng cyflymderau yn lleihau damweiniau ac yn arbed bywydau, ac ochr yn ochr â hyn bydd ansawdd bywyd yn gwella, gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel. Mae hyn yn helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ac mae ganddo ganlyniad cadarnhaol i'n lles corfforol a meddyliol.”