English icon English

Tîm y DU yn ennill yng nghystadleuaeth EuroSkills gyda doniau o Gymru

Team UK triumphs at EuroSkills competition as Welsh talent shines

Mae Tîm y DU wedi gwneud perfformiad trawiadol yng nghystadleuaeth EuroSkills yn Nenmarc, gyda Chymru yn chwarae rhan allweddol gan ennill traean o’r medalau a gipiodd y DU.

Enillodd Tîm y DU fedal efydd a phum medal rhagoriaeth. Derbyniodd Gymru ddwy Fedal Ragoriaeth. Er nad yw’r rhain yn enillwyr a oedd yn sefyll ar y podiwm, mae’r gwobrau’n gydnabyddiaeth o sgil – gan osod yr unigolion ymhlith y gorau ar y llwyfan rhyngwladol.

Ar gyfer EuroSkills eleni, a gynhaliwyd yn Herning, Denmarc, anfonodd y DU dîm o 19 o gystadleuwyr ar draws 17 o wahanol ddisgyblaethau sgiliau.

Mae'r gystadleuaeth bob dwy flynedd yn dwyn ynghyd bron i 600 o gystadleuwyr o fwy na 30 o wledydd i brofi eu sgiliau mewn disgyblaethau sy'n hanfodol i'r economi.

Mae'r rhai a ddewisir gan Dîm y DU o golegau a darparwyr hyfforddiant ar draws y gwledydd wedyn yn cael eu hyfforddi ymhellach am fisoedd gan WorldSkillsUK, mewn partneriaeth â chwmni dysgu gydol oes y byd, Pearson.

O'r 19 hynny, mae 7 yn dod o Gymru - sy'n golygu bod cyfranogwyr Cymru yn tua 37% o Dîm y DU.

Enillodd Tomas Ankers, o Wrecsam, fedal ragoriaeth am Felino dan Reolaeth Cyfrifiadur (melino awtomatig, manwl). Ar ôl ei fuddugoliaeth, dywedodd:

"Fe ges i sioc pan gafodd y canlyniadau eu galw.... Roedd fy nheulu i gyd yn gwylio'r seremoni o gartref, ac yn fy nghefnogi’n frwd. Mae yna lawer o waith i'w wneud cyn i mi allu – gobeithio – sicrhau fy lle yn y tîm ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026 - ond yr hyn sy'n fy ngyrru i ydy ennill, dyna sy'n fy ysgogi ac yn gwneud i mi godi bob dydd."

Cipiodd ei gyd-enillydd o Gymru, Yuliia Batrak o Fae Colwyn, fedal am Wasanaethau Bwyty. Mae Yuliia yn hyfforddi yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac yn gweithio yng Ngwesty'r San Siôr, a dywedodd:

"Fe ddes i o Wcráin dair blynedd yn ôl a syrthio mewn cariad â'r Deyrnas Unedig - a gwasanaethau bwyty. Mae WorldSkills UK wedi rhoi cyfle anhygoel i mi ddysgu llawer a chystadlu ar lwyfan Ewrop. Grŵp Llandrillo Menai ddarparodd yr holl offer ar gyfer yr hyfforddiant ac mae wedi fy helpu gymaint."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

"Llongyfarchiadau mawr i Dîm y DU i gyd, ond yn enwedig i'r saith person ifanc talentog o Gymru. Rwy'n siŵr bod eraill yn ymuno â mi pan ddywedaf ein bod mor falch ohonoch chi, eich sgiliau a'ch ymdrechion eleni.

"Mae'r canlyniadau hyn yn profi bod gan Gymru amrywiaeth anhygoel o ddoniau o ran sgiliau a bod ein pobl ifanc yn barod i gwrdd â heriau economi yfory. Llongyfarchiadau eto!"

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK:

"Llongyfarchiadau i Yuliia a Tomas ar ennill Medaliwn Rhagoriaeth yn EuroSkills Herning 2025. Rydyn ni’n hynod o falch ohonyn nhw a holl Dîm y DU, sydd wedi dangos ymrwymiad, penderfyniad a gwytnwch dros dridiau o gystadlu dwys. Fe wnaethon ni ddewis tîm ifanc â chymhelliant, sy'n dangos potensial enfawr i ddatblygu i fod yn weithwyr proffesiynol medrus o'r radd flaenaf, i gystadlu yn erbyn cystadleuwyr mwy profiadol o bob cwr o Ewrop.  Mae cymryd rhan mewn cystadleuaeth ar y lefel uchaf wedi rhoi cyfle unigryw i roi hwb i ddatblygiad y tîm, wrth baratoi ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026."

Bydd Tîm y DU nawr yn ailymuno â charfan hyfforddi WorldSkills UK ac yn parhau i berffeithio eu harbenigedd, gyda'r nod o gael eu dewis i gynrychioli'r DU yn WorldSkills China yn 2026.

O dan yr enw 'Gemau Olympaidd sgiliau', ystyrir y digwyddiad ym mis Medi nesaf fel y prawf eithaf o allu gwlad i ddiwallu anghenion sgiliau yn y dyfodol.