Tocyn bws £1 i bobl ifanc o fis Medi
£1 bus fares for young people from September
Bydd pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yn gallu teithio ar fysiau ledled Cymru am £1 yn unig o fis Medi ymlaen.
Bydd prisiau sengl yn costio £1 a bydd tocynnau diwrnod £3 ar gael hefyd. Bydd yn caniatáu i bobl ifanc i fwynhau teithio diderfyn gydag unrhyw wasanaethau bws sy'n cymryd rhan o'r 1 Medi am flwyddyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cynllun i bobl ifanc pump i 15 oed o fis Tachwedd. Bydd y prisiau gostyngedig presennol i blant yn berthnasol tan hynny. Bydd angen i bobl ifanc un ar bymtheg i 21 oed wneud cais am fyngherdynteithio am ddim, os nad oes ganddynt un eisoes, a byddant yn gallu gwneud hynny o 21 Gorffennaf. Mae mwy o wybodaeth am sut y bydd y cynllun hwn yn gweithio ar gael yma.
Wrth siarad yn y digwyddiad lansio yng Ngorsaf Fysiau Casnewydd, bydd y Prif Weinidog, Eluned Morgan yn dweud:
"Mae torri costau teithio i bobl ifanc a darparu gwell trafnidiaeth i bawb yn un o'n prif blaenoriaethau. Rydym yn cyflawni ein haddewidion i bobl ifanc ledled Cymru.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Rwy'n falch iawn o fod yn lansio cynllun sy'n cynnig teithio bws fforddiadwy i bobl ifanc i'w helpu i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden, yn ogystal â chefnogi ein hymdrechion i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi.
"Wrth i ni agosáu at wyliau'r haf, rwyf am annog pawb sydd heb gofrestru ar gyfer fyngherdynteithio am ddim i wneud hynny o 21 Gorffennaf, bydd hyn yn golygu y gallant fanteisio ar brisiau bws £1 o'r 1 Fedi.
"Rwyf hefyd yn falch y byddwn yn gallu ymestyn y cynllun i blant pump i 15 oed o fis Tachwedd."
Mae £15m yn cael ei ddarparu dros ddwy flynedd ariannol (2025-26 a 2026-27) i gefnogi tocynnau bws gwerth £1 i bobl ifanc 16 i 21 oed fel rhan o'r cytundeb Cyllideb gydag Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £7m arall i ymestyn y cynllun i blant pump i 15 oed, o'r 3 Tachwedd.