English icon English

Tocyn bws £1 i bobl ifanc – Pythefnos i fynd!

£1 young person’s bus fare – Two weeks to go!

Mae pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yn cael eu hatgoffa i gofrestru ar gyfer fyngherdynteithio am ddim i wneud yn siŵr y gallant fanteisio i'r eithaf ar y tocyn bws £1 pan fydd y cynllun peilot yn dechrau ar Fedi 1.

Ymhen pythefnos bydd prisiau sengl yn costio £1 yn unig a bydd tocynnau £3 diwrnod ar gael hefyd, gan ganiatáu i bobl ifanc gael mynediad at deithio diderfyn gydag unrhyw wasanaethau bws sy'n cymryd rhan.

Bydd angen cyflwyno fyngherdynteithio am ddim i'r gyrrwr fel prawf oedran ac mae ar gael o fyngherdynteithio | Hafan

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc ledled Cymru, a bydd yn caniatáu iddynt wneud teithiau ar gyfer gwaith, addysg a hamdden am bris gostyngol.

"Byddwn yn annog y rhai nad oes ganddynt fyngherdynteithio eto i wneud cais fel y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cynllun pan fydd yn dechrau ar 1 Medi." 

Mae manylion llawn y cynllun ar gael ar wefan fyngherdynteithio.

Mae £15m yn cael ei ddarparu dros ddwy flwyddyn ariannol (2025-26 a 2026-27) i gefnogi tocynnau bws gwerth £1 i bobl ifanc 16 i 21 oed fel rhan o'r Cytundeb Cyllideb gydag Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £7m arall i ymestyn y cynllun i blant pump i 15 oed, o'r 3 Tachwedd.