English icon English
104280 - KSW Disrupt Individual Social Posts Static 1920x1080 WEL1

‘Torri’r trosglwyddiad’ – Lansio’r ymgyrch Diogelu Cymru ddiweddaraf

‘Disrupt the transmission’ – Latest Keep Wales Safe campaign launches

Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru, heddiw (ddydd Llun 6 Rhagfyr), yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.

Bydd hysbysebion ar y teledu a’r radio, yn y wasg ac mewn mannau cyhoeddus, yn ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol am y pum wythnos nesaf, er mwyn annog pobl i barhau i ddilyn y mesurau sydd ar waith i gadw pawb ohonom yn ddiogel.

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd masgiau wyneb, brechiadau, profion, a hunanynysu, a bydd yn hyrwyddo negeseuon ychwanegol i bwysleisio pwysigrwydd awyru, a defnyddio profion llif unffordd cyn cymdeithasu. Mae deunyddiau’r ymgyrch yn cael eu rhannu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn iddynt eu defnyddio ar eu sianeli eu hunain ar y cyfrangau cymdeithasol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Nod gweithgarwch diweddaraf yr ymgyrch Diogelu Cymru yw annog pobl Cymru i barhau i ddilyn mesurau i atal COVID-19 rhag lledaenu, gan nad yw’r feirws wedi mynd i ffwrdd.

“Gyda lefelau uchel o’r amrywiolyn Delta yn y gymuned, ac ar ôl i’r amrywiolyn Omicron ymddangos, mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i gofio pa mor beryglus yw’r coronafeirws, ac rydyn ni wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu iechyd pobl ac i arafu lledaeniad y feirws.


“Hoffem ddiolch i bawb am helpu drwy gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel drwy wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cael y brechlyn, a chael profion, gan hunanynysu os bydd prawf yn bositif.

“Os byddwn ni i gyd yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu, bydd cyfle i edrych ymlaen at flwyddyn newydd iachach a mwy llewyrchus.”

Bydd negeseuon yr ymgyrch yn cael eu hyrwyddo mewn hysbysebion ar y teledu a’r radio, drwy Spotify ac ar bosteri digidol mewn canolfannau siopa a safleoedd bws, ac yn y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram, TikTok, Snap Chat, Twitter, a YouTube, ochr yn ochr â hysbysebion ar y cyfryngau traddodiadol.

Mae’r ymgyrch Diogelu Cymru yn cyrraedd dros 91% o oedolion yng Nghymru.

Hefyd bydd taflen yn cael ei hanfon i 1.4 miliwn o gartrefi, a bydd ar gael mewn 35 o ieithoedd, mewn fformat hawdd ei ddeall, Braille, print bras, a BSL

Nodiadau i olygyddion

Notes to editors

For more information on Keep Wales Safe visit  gov.wales/KeepWalesSafe  / llyw.cymru/DiogeluCymru

Campaign assets are attached.

Thirty second adverts will be airing from Monday. View them on youtube - English: https://youtu.be/TKM-tCkTZXs Welsh:  https://youtu.be/qXGz--Kr-34