English icon English

Trawsnewid adeilad gwag yn unedau swyddfa a manwerthu o safon uchel yn Abertawe

Vacant building transformed into high-end office and retail units in Swansea

Mae datblygiad Ardal y Dywysoges yn trawsnewid adeilad gwag, segur yn fannau manwerthu a swyddfeydd o ansawdd uchel yng nghanol dinas Abertawe.

Mae'r llawr gwaelod yn cynnwys gofod ar gyfer uned manwerthu hyblyg gyda thri llawr uwchben sy'n darparu swyddfeydd moethus.

Mae man ar gyfer storio beiciau ar y safle a gardd ar y to hefyd yn cael eu darparu a byddant yn hygyrch i feddianwyr. 

Mae'r lleoliad hefyd yn annog teithio llesol gyda chysylltiadau trafnidiaeth Abertawe o fewn pellter cerdded.

Darparwyd cyllid grant gwerth dros £2.6m drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant, â'r safle: “Mae trawsnewid adeiladau gwag a segur a dechrau eu defnyddio eto yn yr 21ain ganrif yn un o brif gonglfeini ein Rhaglen Trawsnewid Trefi.

“Bydd yr adeilad yn cynnig pedwar llawr o ofod manwerthu a gofod swyddfa gwych a ddatblygwyd i'r safon uchaf ac a fydd yn cefnogi twf economaidd lleol.

”Dim ond un o blith y prosiectau adfywio sydd ar y gweill yn Abertawe ar hyn o bryd sy'n derbyn cymorth Trawsnewid Trefi yw hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y mannau unwaith y bydd y gwaith datblygu'n cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: “Mae trawsnewid gwerth £1bn Abertawe yn parhau i symud ymlaen ar raddfa a chyflymder.

“Mae Ardal y Dywysoges eithriadol, ynghyd â llawer o ddatblygiadau eraill, yn dangos sut mae’r sector preifat yn dilyn y cyngor a’r sector cyhoeddus i gefnogi’r rhaglen hon yn hyderus gyda buddsoddiad gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd.

“Mae positifrwydd ein sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i greu mwy o gartrefi, swyddfeydd, mannau manwerthu a chynigion hamdden yn adeiladu dyfodol cynaliadwy mawr i Abertawe, gan ddod â swyddi, cyfleoedd ac optimistiaeth.”

DIWEDD