English icon English

Trelar Dan Embargo: Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth brofi wedi'i diweddaru

Embargoed Trailer: Welsh Government’s updated testing strategy to be published today

Heddiw (dydd Iau 28 Ionawr), bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi strategaeth brofi ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

Bydd y strategaeth newydd yn disgrifio ehangu ein dull profi i gynnwys profion mwy rheolaidd ar gyfer staff y GIG, staff cartrefi gofal a chleifion mewn ysbytai.

Ers cyhoeddi'r strategaeth ddiwethaf, mae technolegau profi newydd wedi dangos ei bod yn bosibl profi ar raddfa, amlder a chyflymder llawer mwy nag erioed o'r blaen.

Mae'r strategaeth hefyd yn ystyried ein dealltwriaeth well o'r feirws a chyflwyno ein rhaglen frechu