English icon English

Trelar embargo 00:01 Dydd Gwener 2 Hydref

Embargoed trailer 00:01 Friday 2 October

Yn yr adolygiad 21 diwrnod heddiw o reoliadau’r coronafeirws, nid oes disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud newidiadau mawr i reolau coronafeirws cenedlaethol Cymru, wrth i’r achosion o’r feirws barhau i gynyddu.  

Fodd bynnag, i gydnabod yr effaith emosiynol y gall y feirws ei chael ar bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, bydd y Prif Weinidog yn gwneud newid i reolau lleol i gefnogi rhieni sengl a’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain yn yr ardaloedd lle mae cyfyngiadau symud lleol.