English icon English
TfW 756 EiS-02 - new train in station

Trenau trydan newydd rhwng Coryton, Caerffili a Phenarth

New electric trains running between Coryton, Caerphilly and Penarth

Mae trenau trydan newydd sbon sy'n cynnig profiad gwell i gwsmeriaid bellach yn cael eu defnyddio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Coryton, Caerffili a Phenarth.

Bydd pum trên Dosbarth 756 tri-modd newydd ychwanegol, sy'n rhan o fuddsoddiad gwerth £800m gan Lywodraeth Cymru mewn trenau newydd, yn ymuno â'r fflyd sydd eisoes yn trawsnewid profiadau teithwyr ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert, gan ddod â chyfanswm y trenau trydan newydd sbon sy'n gwasanaethu bob dydd i 19 (gyda 24 yn y fflyd gyfan).

Mae'r trenau newydd, sy'n darparu 50% yn fwy o gapasiti a hygyrchedd gwell, gan gynnwys byrddio ar yr un lefel â'r platfform, yn cael eu cyflwyno ar ôl cynllun treialu llwyddiannus ar linell Coryton yn gynharach eleni. Bydd y llinell hefyd yn elwa ar wasanaeth dydd Sul, am y tro cyntaf, o fis Rhagfyr ymlaen. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rwy'n falch iawn ein bod yn cyflwyno mwy o drenau trydan newydd sbon ar linellau craidd y cymoedd i ddarparu Gwell Trafnidiaeth i Gymru.

"Mae'r trenau Dosbarth 756 o'r radd flaenaf yn trawsnewid teithio i deithwyr gyda gwasanaethau cyflymach ac amlach yn ogystal â mwy o gapasiti, cysur, a hygyrchedd gwell.

“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol arall ar ein taith i uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd a darparu gwasanaeth metro troi i fyny a mynd.”

Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio a pherfformiad TrC, Colin Lea:

“Ym mis Mehefin y llynedd fe wnaethon ni ddatblygu amserlen newydd i gael y gorau o'n trenau newydd sbon, a oedd yn llwyddiannus ar ôl ychydig o addasiadau.

“Bydd cwsmeriaid nawr yn elwa ar fwy o gapasiti a dibynadwyedd, byrddio ar yr un lefel â'r platfform a phrofiad cyffredinol gwell, yn ogystal â gwasanaeth bob awr ar ddyddiau Sul o fis Rhagfyr ymlaen.”