English icon English

Trenau trydan newydd sbon yn rhedeg bob dydd ar linellau Coryton a Phenarth

Brand-new electric trains running daily on the Coryton and Penarth lines

Mae cwsmeriaid sy'n teithio ar linellau Coryton a Phenarth bellach yn mwynhau manteision trenau trydan newydd sbon.

O heddiw ymlaen (dydd Sadwrn 27 Medi) bydd cyfanswm o bedwar ar hugain o drenau trydan Dosbarth 756 yn rhedeg ar linellau Coryton, Penarth, Treherbert, Aberdâr a Merthyr.

Mae'r trenau o'r radd flaenaf a byddan nhw'n trawsnewid teithio i deithwyr drwy roi rhagor o gapasiti gwasanaethau cyflymach a mwy aml, yn ogystal â gwneud y trenau'n fwy cyfforddus a hygyrchedd – gan gynnwys mynediad gwastad.

Mae hyn yn cwblhau'r broses o gyflwyno'r holl drenau Dosbarth 756 ar draws cymoedd De Cymru fel rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn trenau newydd sbon.

Wrth siarad yng Ngorsaf Coryton, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu trafnidiaeth well i bobl ledled Cymru, felly rwy'n falch iawn bod y trenau Dosbarth 756 hyn bellach wedi cael eu cyflwyno'n llawn.

“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol arall ar ein taith i uwchraddio holl Linellau Craidd y Cymoedd a darparu gwasanaeth metro troi i fyny a mynd.

"A gyda Thalu-Wrth-Fynd ar gael mewn dros 90 o orsafoedd, bydd rhagor o bobl nawr yn gallu teithio yn rhatach ac yn elwa ar y gwasanaeth mae'r trenau gwych hyn yn ei ddarparu."

Dwedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru:

"Rydyn ni wrth ein boddau gweld y trenau trydan newydd sbon hyn yn rhedeg ar Linell Coryton, gan wella profiad yr holl gwsmeriaid sy’n teithio gyda ni. 

"Mae’r trenau modern hyn yn cynnig rhagor o gapasiti, seddi gwell, systemau awyru modern, socedi pŵer, WiFi a sgriniau gwybodaeth i deithwyr sy’n cael eu diweddaru bob munud. Bydd hefyd fynediad gwastad awtomatig a lle ar gyfer chwe beic."