Tri busnes gweithgynhyrchu arall yn dechrau gwneud sgrybs ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru
Three more manufacturing businesses to produce scrubs for Wales’ healthcare heroes
Mae tri busnes gweithgynhyrchu bach yng Nghymru yn ymuno â’r frwydr yn erbyn COVID-19, drwy wneud sgrybs ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru, mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters wedi cyhoeddi.
Bydd cwmni bach yng Nghlydach sy’n arbenigo mewn gwneud baneri ar gyfer ffilmiau, gwyliau teledu a chestyll, ymhlith cwsmeriaid eraill, a dwy wniadwraig annibynnol o Abertawe a Chaerfyrddin yn gwneud nwyddau hanfodol i gefnogi’r GIG yng Nghymru.
Mae gwaith yn mynd rhagddo yn Red Dragon Flagmakers, sydd eisoes wedi derbyn ffabrig, a bydd y gwniadwragedd Tesni Owen a Bethan Jones yn dechrau gwneud sgrybs yr wythnos hon.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru eu rhoi mewn cysylltiad ag Alexandra, cwmni yn y DU sy’n gwneud sgrybs ar gyfer y GIG ond sy’n dibynnu yn drwm ar farchnadoedd dramor ar gyfer deunyddiau a chynhyrchu, ar ôl sicrhau cyflenwad mawr o ffabrig o’r farchnad yn y DU pan ddywedwyd wrthi y byddai’r Dwyrain Pell a’r Isgyfandir yn cau gweithrediadau cynhyrchu yn rhannol o ganlyniad i goronafeirws.
Mae hefyd yn rheoli’r logisteg ar gyfer cludo ffabrig o Alexandra i’r tri chwmni i gyflymu’r proses gynhyrchu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi.
Gyda’i gilydd bydd y busnesau’n cynhyrchu 1,000 set o sgrybs yr wythnos.
Dywedodd Bethan Jones o Bethan Jones Boutique: “fel perchennog bwticau yn ne Cymru, mae’n fraint gen i a fy nhîm o staff medrus weithio ar y cyd â’r GIG yn yr adeg anodd hon. Wrth inni frwydro yn erbyn COVID-19, mae’n hanfodol bod pob gweithiwr rheng flaen yn cael ei amddiffyn. Drwy gynhyrchu’r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen, rhoddir sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i ddiogelu’r bobl wych sy’n peryglu eu bywydau wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn y feirws.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Mae ateb cwmnïau yng Nghymru i alwad y Prif Weinidog am gymorth i wneud cyfarpar diogelu personol wedi bod yn wych.
“O ganlyniad, ar hyn o bryd rydyn ni’n annibynnol o ran gwneud sgrybs yng Nghymru am y tro cyntaf, a bydd ymdrechion y tri busnes hyn yn atgyfnerthu’r annibyniaeth honno ymhellach.
“Prin yw’r hanesion cadarnhaol o ganlyniad i’r pandemig hwn, ond heb os nac oni bai mae dod â swyddi yn gwneud offer meddygol hanfodol yn ôl i Gymru a’u sefydlu ein heconomi yn un ohonyn nhw.
“Mae ein harwyr gofal iechyd yn gwneud gwaith gwych yn achub bywydau drwy roi gofal iechyd o’r radd flaenaf i bobl sydd â choronafeirws, a byddwn ni’n parhau i wneud popeth yn ein gallu i’w helpu a’u diogelu.”