English icon English

Trwsio ac atal dros 44,000 o dyllau ar ffordd y Canolbarth

A ‘Hole’ lot of fixing going on - More than 44,000 potholes fixed or prevented in Mid Wales

Mae dros 44,000 o dyllau ar 90 o filltiroedd o ffyrdd y Canolbarth wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn y chwe mis diwethaf.

Ers mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n glos gyda chynghorau lleol i gyflawni ei hymrwymiad o ran ‘Trwsio ein Ffyrdd’.

Mae'r fenter benthyca ar gyfer llywodraeth leol wedi galluogi cynghorau lleol i drwsio neu atal tua 107,000 o dyllau ar draws 216 milltir ar ffyrdd lleol yng Nghymru. Ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) mae tua 24,000 o dyllau wedi'u trwsio neu eu hatal ar fwy na 50 milltir o ffordd yn yr un cyfnod, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y priffyrdd yn y Canolbarth sydd wedi’u trwsio y mae ffyrdd osgoi’r Trallwng a’r Drenewydd ar yr A483 a’r A470 yng Nghaersws

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.

"Er nad yw'r rhaglen hon ond ar waith ers chwe mis rwy'n falch iawn o'r gwaith gwych sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, ac mae llawer mwy i ddod.

"Rydym nawr yn gweld canlyniadau'r buddsoddiad ychwanegol o £25m yn ein prif ffyrdd, a'r gefnogaeth i'n hawdurdodau lleol i drwsio ffyrdd lleol.

"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, gan ddatrys problemau nawr a gwneud ein ffyrdd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.