English icon English

Tyllau yn y ffyrdd ledled Cymru yn cael eu trwsio a'u hatal gyda chronfa llywodraeth leol

Potholes across Wales fixed and prevented with local government fund

Mae ffyrdd lleol ledled Cymru yn cael eu trwsio wrth i waith ddechrau o ganlyniad i gynllun sy'n datgloi hyd at £120m i gynghorau lleol

Heddiw, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn ymweld ag un o'r ffyrdd cyntaf i elwa, sef yr A548 yn Sir Conwy rhwng Abergele a Llangernyw.

Mae'r fenter i fenthyca i lywodraeth leol yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i gael mynediad at £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol dros ddwy flynedd, i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol.

Bydd yr hwb ariannol yn golygu y bydd 600km ychwanegol o'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn cael wyneb newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd y ffyrdd sydd angen eu hatgyweirio fwyaf yn cael eu hadnewyddu, gyda dros 200,000 o filoedd o dyllau yn cael eu trwsio a'u hatal, a phalmentydd yn cael eu hatgyweirio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio mewn partneriaeth agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cael cyllid i'w helpu i ddatgloi'r cyllid i drwsio ffyrdd ar eu rhwydweithiau ledled Cymru. Mae gwaith eisoes wedi dechrau mewn rhai awdurdodau lleol a bydd hyn yn trwsio miloedd o dyllau ac yn atal cannoedd o filoedd yn y blynyddoedd i ddod. 

Yn Sir Conwy mae'r gwaith ar yr A548 yn golygu oddeutu 14km o wyneb newydd a fydd yn trwsio ac yn atal tua 4000 o dyllau.  Mae rhan o'r ffordd eisoes wedi'i chwblhau fel rhan o'r cynllun, gan ei gwneud yn un o'r cyntaf i elwa. 

Dywedodd Ken Skates: "Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.  Nid yn unig yr ydym yn darparu £25m ychwanegol i drwsio ac atal tyllau ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol, ond rydym hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i drwsio ffyrdd lleol. 

"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, gan ddatrys problemau nawr a gwneud ein ffyrdd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.  Edrychaf ymlaen at weld mwy a mwy o ffyrdd lleol yn cael eu trwsio dros y misoedd nesaf."

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau Conwy: “Rydym yn croesawu’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i wella cyflwr ein ffyrdd. Ein rhwydwaith ffyrdd yw ased fwyaf a mwyaf gwerthfawr y Cyngor ac mae’n hynod bwysig i’n trigolion. Ochr yn ochr â £2miliwn o fuddsoddiad gan y Cyngor, mae’n golygu y byddwn yn gwario dros £6miliwn eleni ar roi arwyneb newydd ar ffyrdd – gan drwsio tyllau presennol a thrin yr arwyneb fel bod llai o dyllau newydd yn ffurfio.”