Unedau busnes newydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin
New business units available in Carmarthenshire
- Pum uned fusnes ynni-effeithlon newydd wedi cael eu cwblhau yn Llandeilo
- Prosiect ar y cyd gwerth £3 miliwn rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru
- Unedau eraill ar gael i fusnesau eu rhentu
Mae pum uned fusnes ynni-effeithlon sydd fawr eu hangen wedi cael eu cwblhau yn Sir Gaerfyrddin, mewn prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Gan weithio gyda'i gilydd drwy fenter ar y cyd, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi datblygu'r unedau diwydiannol ynni-effeithlon yn Ystâd Ddiwydiannol Beechwood, yn Llandeilo.
Mae mwy na £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn y datblygiad 7,000 troedfedd sgwâr, a fydd yn rhoi lle i fusnesau lleol a rhanbarthol dyfu.
Mae'n dilyn gwaith ymgysylltu blaenorol â'r gymuned a nododd yr angen am fwy o ofod cyflogaeth.
Mae'r datblygiad – sydd wedi'i gynllunio i gyflawni 'targed Carbon Sero Net' – yn rhan o Gynllun Cyflawni Eiddo Llywodraeth Cymru ac mae'n cyflawni Menter Deg Tref Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Cafodd yr unedau eu hadeiladu gan y contractwr o Gymru Korbuild Ltd, ac maen nhw wedi'u cynllunio i gadw costau ynni i lawr a lleihau allyriadau carbon. Mae nodweddion yn cynnwys paneli solar, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, lefelau uchel o inswleiddio, draenio cynaliadwy a'r hyblygrwydd i ychwanegu storio batris y dyfodol.
Mae'r prosiect hefyd wedi sicrhau manteision i fusnesau ledled y rhanbarth. Mae Solar Save Renewables Ltd, a osododd y system ynni solar, wedi'i leoli lai na milltir o'r safle.
Mae busnesau eisoes wedi dangos cryn ddiddordeb yn yr unedau, gyda disgwyl i un o'r unedau mwy gael ei meddiannu yn fuan.
Dwedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Korbuild Ltd, Mark Cotter:
“Roedd Korbuild wrth ein boddau’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Rhomco ar y gwaith llwyddiannus o gwblhau prosiect Ystad Ddiwydiannol Beechwood.
O’r dyluniad ynni-effeithlon i ddefnyddio cyflenwyr lleol, mae’r datblygiad hwn yn dangos y ffordd y gall adeiladu cynaliadwy gefnogi busnesau a chymunedau.”
Dwedodd Aelod Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans:
“Mae’r unedau busnes hyn o ansawdd uchel ac yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol Llandeilo a’r ardal ehangach.
Drwy ddarparu mannau modern, ynni-effeithlon i fusnesau ymsefydlu a thyfu, rydyn ni’n cefnogi creu swyddi, yn atgyfnerthu economïau lleol ac yn helpu i sicrhau bod ein trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog i fyw a gweithio ynddyn nhw.”
Dwedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Solar Save Renewables Ltd, Petar Pavlov:
“A ninnau yn fusnes bach lleol, mae Solar Save Renewables wedi bod wrth ein boddau’n derbyn y lefel o ymddiriedaeth sydd ei hangen ar gyfer prosiect o’r maint a’r cymhlethdod hwn.
“Mae’r prosiect wedi darparu cyfle gwych i ddangos sgiliau ac arbenigedd ein tîm, ac mae’n dangos bod cwmnïau lleol yn gallu llwyddo wrth ddarparu atebion ynni adnewyddadwy o ansawdd uchel.
“Rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn annog rhagor o gyfleoedd ar gyfer busnes o fewn Sir Gaerfyrddin i gyfrannu at ddatblygiadau mawr ledled y rhanbarth.”
Cewch holi ynghylch tenantiaeth gydag asiantau marchnata Alder King.