Uwchgynhadledd sgiliau yn creu llwybr ar gyfer swyddi yng Ngogledd Cymru
Skills summit charts path for North Wales jobs
Heddiw, bu'r Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, yn cynnal Uwchgynhadledd Sgiliau yng Ngogledd Cymru, gan ddod ag arweinwyr allweddol ynghyd i baratoi gweithlu'r rhanbarth ar gyfer cyfleoedd swyddi yn y dyfodol.
Daeth arweinwyr diwydiant, darparwyr addysg a hyfforddiant a phartneriaid y llywodraeth i Gampws Llangefni Grŵp Llandrillo Menai er mwyn canolbwyntio ar sut all y rhanbarth fanteisio ar brosiectau trawsnewidiol fel gorsaf bŵer niwclear Wylfa a'r parth twf Deallusrwydd Artiffisial newydd.
Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y blaenoriaethau sgiliau ar gyfer Gogledd Cymru, creu llwybrau clir i bobl ifanc allu cael at yrfaoedd lleol gwerth chweil, ac uwchsgilio gweithwyr sydd eisoes mewn cyflogaeth fel y gall pawb yng Ngogledd Cymru elwa ar y cyfleoedd hyn.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, yn y gynhadledd hefyd.
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:
"Mae'n adeg dyngedfennol i Ogledd Cymru. Mae Wylfa, twf ynni adnewyddadwy, a pharthau buddsoddi newydd yn ail-lunio'r economi. Ni allwn elwa'n llwyr ar y cyfleoedd hyn heb fynediad at y sgiliau cywir, ar yr adeg gywir, yn y lleoedd cywir.
"Roedd y trafodaethau heddiw yn hanfodol yn hyn o beth. Pan mae'r llywodraeth, diwydiant a darparwyr addysg yn cydweithio ar gynllunio ac yn rhannu'r un uchelgais, mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa well i arwain y Deyrnas Unedig at ddyfodol gwyrddach a mwy ffyniannus."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r trafodaethau hanfodol a gwerthfawr hyn heddiw.
"Ein nod yw creu llwybrau clir, hygyrch fel y gall pob dysgwr symud ymlaen, a bydd yr hyn a rannwyd heddiw yn ein helpu i sicrhau bod dysgwyr ledled Gogledd Cymru yn datblygu sgiliau lefel uwch, ac yn cyfrannu at economi gref a chynaliadwy yng Nghymru."
Dywedodd Matthew Franklin, myfyriwr Peirianneg Awyrennol Lefel 3 yng Ngholeg Menai:
"Dyma gyfnod cyffrous iawn i Ynys Môn ac mae'n galonogol iawn gweld cymaint o brosiectau mawr yn dod yma. Bydd y datblygiadau hyn, gobeithio, yn darparu cyfleoedd gwych i bobl ifanc lleol ddatblygu gyrfa lwyddiannus yn yr ardal y maent wedi'u magu ynddi."