English icon English

Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ddiweddariadau i reolau etholiadau lleol

Welsh Government launches consultation on updates to local election rules

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad yn ceisio barn ar Reolau drafft Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 a Gorchymyn drafft Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026. 

Mae'r newidiadau arfaethedig, a fyddai'n dod i rym ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2027, yn canolbwyntio ar sicrhau bod etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gyson â'r diweddariadau a wnaed i weithdrefnau etholiadau’r Senedd yn ddiweddar.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos, gyda Llywodraeth Cymru yn annog yr holl bartïon â buddiant i roi adborth ar y cynigion. 

Mae'r prif gynigion yn cynnwys diweddaru'r rheolau i sicrhau eu bod yn gwbl ddwyieithog ac yn cyd-fynd â'r newidiadau a wnaed i Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. 

Mae'r gwelliannau arfaethedig hefyd yn mynd i'r afael â threfniadau diogelwch ymgeiswyr ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu cymryd mesurau diogelwch priodol tra'n cadw at reolau gwariant ymgyrchu teg a thryloyw. 

Mae hyn yn golygu y byddai ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol yn gallu ysgwyddo treuliau rhesymol ar gyfer diogelwch personol a diogelu eiddo heb i'r costau hyn gyfrif tuag at derfynau gwariant eu hymgyrch, gan ddod ag etholiadau lleol yn unol â'r diwygiadau diweddar a wnaed ar gyfer etholiadau'r Senedd. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: “Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn moderneiddio ein rheolau etholiadau lleol ac yn sicrhau cysondeb ar draws holl etholiadau Cymru. 

“Yn hollbwysig, maen nhw'n cydnabod na ddylai unrhyw ymgeisydd orfod dewis rhwng eu diogelwch a'u gallu i ymgyrchu. Ni ddylai amddiffyn eu hunain a'u heiddo byth ddod ar draul cyrraedd pleidleiswyr. Dyma un o brif argymhellion adroddiad ardderchog Sefydliad Jo Cox ar fynd i'r afael â chamdriniaeth a bygythiadau – rhywbeth dw i wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw i fynd i'r afael ag o. 

“Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn ein prosesau democrataidd i ymateb i'r ymgynghoriad hwn a helpu i lunio'r diweddariadau hanfodol hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llywydd CLlLC: “Mae sefyll mewn etholiad yn cymryd dewrder, ymrwymiad ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth. Ni ddylai unrhyw un deimlo mewn perygl oherwydd eu bod wedi penderfynu gwasanaethu eu cymuned. 

“Mae'r newidiadau arfaethedig hyn yn cydnabod y realiti hwnnw a byddant yn helpu i wneud democratiaeth leol yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb. Maen nhw hefyd yn moderneiddio ein rheolau etholiadol i adlewyrchu'r gwerthoedd tegwch a dwyieithrwydd sydd wrth galon democratiaeth yng Nghymru.”

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 12 Ionawr 2026: Newidiadau i reolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru | LLYW. CYMRU 

DIWEDD