“Wirfoddolwyr, mae ar eich cymunedau eich angen chi arnon ni nawr fwy nag erioed” meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru
Welsh Government Minister says “Volunteers, your communities need you now more than ever”
Wrth i Gymru symud tuag at gyfnod atal byr ar y feirws y penwythnos hwn, galwodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, ar gymunedau i ddod ynghyd mewn ffordd ddiogel i gefnogi’r rheini sydd fwyaf agored i niwed, gan ddweud:
“Yn ystod cyfnod clo llym y DU gyfan yn gynharach eleni, daeth gwirfoddolwyr, mudiadau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol ynghyd gydag ysbryd ac argyhoeddiad i gefnogi cymunedau lleol. Fydden ni ddim wedi gallu parhau i ymdopi cystal heb eich help, eich cefnogaeth a’ch gwaith caled chi.
“Rydych chi eisoes wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol ar draws cymunedau Cymru. Mae grwpiau cymunedol wedi dangos pa mor dda y mae gwirfoddolwyr yn cydweithio, a dw i am gymeradwyo a dathlu’r ymdrechion a wnaed, a’ch annog i barhau i gefnogi eich cymunedau lleol o’ch cartref, os yw’n rhesymol ymarferol, neu drwy aros mor agos at eich cartref â phosibl.
“Mae rheolau’r cyfnod atal byr yn caniatáu inni ddarparu gofal neu gymorth i berson sy’n agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys nôl bwyd a meddyginiaeth ar eu cyfer. Ond mae’n bwysig nad ydych yn rhoi eich hunain na’r person rydych yn darparu gofal iddo mewn perygl.”
Wrth siarad â phobl Cymru ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Dyma’r foment i ddod ynghyd, i chwarae ein rhan ac ymegnïo gyda’n gilydd i ddiogelu’r GIG ac arbed bywydau. Er na fydd yn hawdd, mi wnawn ni hyn gyda’n gilydd.”
Ruth Marks, Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
“Mae gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig o ran cynorthwyo’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed a chymryd y straen oddi ar ysgwyddau’r GIG.
“Wrth i ni symud nawr i gyfnod byr o gyfyngiadau cenedlaethol, bydd angen cymorth ar lawer o unigolion a grwpiau, ac yn sicr bydd ddigon o bobl neu grwpiau sy'n barod i helpu. Boed hynny drwy gasglu siopa, cyflwyno presgripsiynau drostynt neu roi caniad cyfeillgar iddynt.
“Gellir cael canllawiau ar sut i wirfoddoli’n ddiogel ac yn effeithiol ar volunteering-wales.net.”
Mae gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli ger eich cartref chi ar gael yma - https://thirdsectorsupport.wales/contact/.
Ar ddiwedd y cyfnod atal byr, caiff cyfres newydd o reolau cenedlaethol eu cyflwyno, yn ymwneud â chwrdd ag eraill a sut y bydd y sector cyhoeddus a busnesau yn gweithredu. Caiff gwybodaeth am wirfoddoli ei darparu hefyd.