Wythnos ar ôl i wneud cais i gronfa dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2026
One week left to apply for St David’s Day 2026 celebration fund
Mae grwpiau cymunedol ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud cais i gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026. Bydd y gronfa ar agor i geisiadau tan 12pm ddydd Gwener 14 Tachwedd.
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer gweithgareddau i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dewi Sant, ar 1 Mawrth. Cyhoeddodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y gronfa newydd ym mis Hydref.
Gallai gweithgareddau gynnwys gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol, gweithdai cymunedol, twmpathau (dawnsio gwerin traddodiadol Cymreig) neu ddigwyddiadau sy'n ymwneud â bwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.
Mae grantiau gwerth rhwng £500 a £5,000 ar agor ar gyfer digwyddiadau lleol neu gymdogaeth ar raddfa lai. Bydd hyd at £20,000 ar gael i sefydliadau rhanbarthol, fel awdurdodau lleol, a hyd at £40,000 i sefydliadau Cymru gyfan.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae Dydd Gŵyl Dewi, ein diwrnod cenedlaethol, yn ddigwyddiad mor bwysig i ddod â chymunedau at ei gilydd i ddathlu popeth sy'n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig gyda'n hunaniaeth a'n diwylliant unigryw.
"Ry’n ni'n genedl sy'n llawn balchder a chreadigrwydd, a dw i methu aros i weld y llu o weithgareddau fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, o'n pentrefi lleiaf i'n dinasoedd mwyaf.
"Os ydych chi'n rhan o sefydliad, boed yn grŵp cymdogaeth bach neu'n sefydliad cenedlaethol mawr, cymerwch ran! Gadewch inni wneud Dydd Gŵyl Dewi 2026 yr un gorau erioed!"
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Dydd Gŵyl Dewi 2026: Cronfa gymorth beilot
Nodiadau i olygyddion
Mae nifer o grwpiau cymunedol eisoes wedi gwneud ceisiadau, a byddant yn hapus i siarad â'r wasg cyn i'r cyfnod ymgeisio gau. Am fanylion pellach, cysylltwch â matthew.morris@llyw.cymru