Wythnos Hinsawdd Cymru: Ynni adnewyddadwy yn allweddol i’n hadferiad gwyrdd a’n hymateb i argyfwng yr hinsawdd – Lesley Griffiths
Wales Climate Week: Renewable energy has key role in green recovery and climate emergency response – Lesley Griffiths
- Adroddiad newydd yn dangos bod Cymru’n cymryd camau breision at gwrdd â’r targed adnewyddadwy uchelgeisiol
Mae ynni adnewyddadwy yn allweddol i’n hadferiad gwyrdd a’n hymateb i argyfwng yr hinsawdd – dyna neges Lesley Griffiths wrth i adroddiad newydd ddangos bod Cymru’n cymryd camau breision at gwrdd â’i thargedau adnewyddadwy uchelgeisiol.
Mae adroddiad Cynhyrchu Ynni 2019 a gyhoeddwyd heddiw ar ddiwrnod dau Wythnos Hinsawdd Cymru yn dangos bod ffynonellau adnewyddadwy yn diwallu dros hanner (51%) anghenion ynni Cymru a bod Cymru 83% o’r ffordd at gwrdd â’i tharged o 1GW o dan berchenogaeth leol erbyn 2030 – gyda 825MW o’r capasiti ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol.
Mae’r adroddiad yn dangos hefyd:
- Gwynt sy’n cynhyrchu rhyw ddwy ran o dair o’r trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru;
- Yn 2019, roedd 72,841 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, 3,841 yn fwy nag yn 2018.
- Roedd 94% o’r prosiectau ynni adnewyddadwy (68,560) yng Nghymru o dan berchenogaeth leol.
- Fferm wynt Clocaenog oedd y prosiect mwyaf a gomisiynwyd yn 2019. Wedi’i hadeiladu ar ystâd goed Llywodraeth Cymru, hi yw’r fferm wynt ail fwyaf ar y tir yng Nghymru ac yn neilltuo £768,000 yn flynyddol i gronfa er lles y gymuned leol.
- Nid oes ynni’n cael ei gynhyrchu o le bellach yng Nghymru.
Fel rhan o wythnos Hinsawdd Cymru, bydd y gynhadledd ddigidol heddiw yn trafod sut mae gweddnewid ein system ynni wrth adeiladu economi gref yn dilyn Covid-19.
Gan groesawu’r adroddiad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Comisiynais yr adroddiad Cynhyrchu Ynni cyntaf yn 2017 er mwyn cael darlun llawn o’r newid i ynni adnewyddadwy a’i gymharu â’n targedau uchelgeisiol. Rwy’n falch bod ffigurau 2019 yn dangos arwyddion da er gwaetha’r amodau anodd sydd wedi bod yn wynebu datblygwyr a’n bod yn cymryd camau breision at gwrdd â’n targedau.
“Ers yr adroddiad diwethaf, rydym wedi cyhoeddi ein polisi ar gadw ffynonellau cynhyrchu ynni o dan berchenogaeth leol, sef bod disgwyl i gyfran o bob prosiect ynni newydd fod mewn dwylo lleol, fel bod mwy o’r manteision yn cael eu cadw yng Nghymru. Mae ffigurau eleni yn dangos bod mwy o brosiectau nag erioed mewn dwylo lleol a’n bod 83% o’r ffordd at gwrdd â’n targed o 1GW erbyn 2030.
“Yn 2019, cafodd y trydan cyntaf ei gynhyrchu gan y fferm wynt 27 tyrbin yng Nghoedwig Clocaenog, y fferm wynt ail fwyaf ar y tir yng Nghymru. Yn ogystal â chreu gwaith, mae’n dod â budd i gymunedau’r ardal ynghyd ag i ranbarth y gogledd yn gyffredinol.
“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd wrth inni ymateb i bandemig y Covid-19 ond mae wedi dangos bod cyfleoedd hefyd i’r sector chwarae rhan bwysig i gefnogi’r adferiad gwyrdd a’n hymateb i argyfwng yr hinsawdd. Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn rhoi cymaint o sylw ag erioed ar ein targedau a’n huchelgais ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a’r newid i Gymru carbon isel.”