English icon English

Y cyngor diweddaraf am fynediad i ysgolion gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams

The latest advice on access to schools from Education Minister Kirsty Williams

Datganiad gan Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg

Hoffwn ddiolch i rhieni am wrando ar y cyngor a chadw'r rhan fwyaf o blant gartref. Byddwn yn ddiolchgar bore fory os fyddech ond yn defnyddio ysgolion neu ofal plant fel dewis olaf.

Nid yw'r cyngor wedi newid o ganlyniad i'r penderfyniad heno i gyfyngu ymhellach ar symud, penderfyniad a gymrwyd gan ein Prif Weinidog, ynghyd ag arweinwyr eraill y DU, gyda’r nod o arafu lledaeniad coronafeirws.

Dylai plant fod gartref lle bynnag y bo'n bosibl. Bydd angen o hyd i weithwyr critigol gael trefniadau gofal diogel ar gyfer eu plant. Mae ein hysgolion a'n lleoliadau gofal plant yn darparu gwasanaeth hanfodol i gefnogi gweithwyr critigol a'r plant sydd fwyaf agored i niwed.

Dylai'r rhai sy'n ymwneud â'r trefniadau presennol barhau i ofalu am blant. Diolch yn fawr i'n gweithwyr addysgu a gofal plant anhygoel am eu hymrwymiad yn y cyfnod hwn o angen cenedlaethol.

Bydd y sefyllfa hon yn parhau am y tymor byr ond byddwn yn adolygu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a'n hundebau athrawon.

Nodiadau i olygyddion

https://twitter.com/wgmin_education/status/1242217045103648768