Y 100 diwrnod cyntaf yn gosod y sylfaen ar gyfer newid hirdymor yng Nghymru

First 100 days lay foundations for long-term change in Wales

Heddiw (dydd Mercher 26 Awst), nododd Llywodraeth newydd Cymru ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym, gan gadarnhau ei bod wedi gwneud cynnydd allweddol o ran cyflawni’r addewid i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Ers i’r Cabinet gyfarfod am y tro cyntaf ar 18 Mai, mae’r Gweinidogion wedi bod yn gosod y sylfaen ar gyfer newid hirdymor.

Mae gwaith wedi dechrau ar y materion pwysicaf, gan gynnwys torri amseroedd aros y GIG, gwella ysgolion, creu swyddi da, a rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.

Mae’r cynnydd a wnaed yn ystod y 100 diwrnod cyntaf yn cynnwys:

  • Cadarnhau cynnydd mewn cymhellion hyfforddi athrawon.
  • Ehangu’r ddarpariaeth gofal plant a ariennir, gan fod o fudd i gannoedd o deuluoedd ychwanegol ledled Cymru.
  • Ehangu’r Cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i fwy o ddisgyblion ysgol uwchradd o fis Medi, gydag ysgolion yn darparu’r prydau hynny yn ystod y tymor.
  • Sicrhau cytundeb cyllido aml-flwyddyn i roi sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermwyr Cymru.
  • Cyhoeddi gwasanaeth bysiau newydd rhwng y Gogledd a’r De i gysylltu cymunedau.
  • Sefydlu grŵp arbenigol i gynllunio canolfannau llawfeddygol newydd, fel rhan o waith ehangach i leihau amseroedd aros.
  • Dadlau dros Gymru gyda Llywodraeth y DU ar gyllid, cyllid canlyniadol HS2, cyfiawnder amgylcheddol i gymunedau glofaol, a’r angen am Fil Cymru newydd.

Gan gyflawni ymrwymiad pellach a wnaed yng Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf, mae dangosfwrdd digidol hefyd wedi’i gyhoeddi heddiw, sy’n caniatáu i bobl olrhain cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hyn am y tro cyntaf.

Mae’r dangosfwrdd yn esbonio beth sy’n cael ei wneud ac yn darparu data i helpu i ddangos a yw’r camau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Dyma fersiwn gychwynnol o’r dangosfwrdd, a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies:

“Mae cyfeiriad y Llywodraeth hon yn glir, ac mae’r 100 diwrnod cyntaf hyn wedi dangos na fyddwn yn derbyn unrhyw oedi na gwyro pan fydd angen gweithredu.

“Heddiw, ar y 100fed diwrnod ers i’r Cabinet gyfarfod am y tro cyntaf, rwy’n falch o gyhoeddi ein dangosfwrdd blaenoriaethau newydd, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio’n agored a thryloyw bob amser.

“Er bod heddiw yn garreg filltir gynnar bwysig, dim ond y dechrau yw hyn. Rydym wedi bod yn gosod y sylfeini ar gyfer newid hirdymor, ac wedi dechrau gwireddu ein haddewid i wella bywydau pobl.

“Ein tasg ni nawr yw parhau i adeiladu economi gryfach, gwasanaethau cyhoeddus cryfach, a Chymru decach lle mae pawb yn cael y cyfle i lwyddo – a bydd y gwaith hwnnw’n parhau yn ddi-oed.”