English icon English
woman-in-white-long-sleeved-laboratory-gown-standing-3735715-2

Y Bwrdd Cyflawni newydd, Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yn penodi aelodau

Pharmacy: Delivering a Healthier Wales Delivery Board appoints new members

Heddiw [Dydd Mawrth 28], mae Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans wedi cyhoeddi enwau'r aelodau a benodwyd i Fwrdd Cyflawni Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Cafodd y Bwrdd ei sefydlu mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor Fferyllol Cymru Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach. Mae'r adroddiad yn nodi ymrwymiad y proffesiwn fferyllol i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y GIG, a'r sector gofal cymdeithasol a'r cyhoedd i sicrhau bod y proffesiwn yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i sicrhau bod ein system gofal iechyd yn gynaliadwy ac i wella iechyd a lles y wlad.

Er mwyn cyflawni gweledigaeth y proffesiwn ar gyfer 2030, mae'r adroddiad yn rhestru’r nodau penodol i'w cyflawni erbyn 2022. Bydd y Bwrdd Cyflawni yn cydlynu ac yn cefnogi'r gwaith o weithredu'r nodau hyn sy'n sylfaen hanfodol i'r weledigaeth tymor hwy.

Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru fydd cadeirydd y Bwrdd, a bydd yr aelodau'n cwrdd bob chwarter. Mae'n bosibl y caiff cyfarfodydd ychwanegol eu cynnal yn fwy aml os bydd gofyn am hynny, ac os bydd angen, gellir gwneud penderfyniadau y tu allan i'r pwyllgor.

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd Cyflawni yn rhithiol yn ystod yr haf, a thrafodir beth y mae'r proffesiwn fferyllol wedi'i ddysgu gan y pandemig COVID-19 a sut y gall hwnnw gyfrannu at Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch ein bod wedi sefydlu'r Bwrdd Cyflawni sy’n cynnwys aelodau sy’n cynrychioli hyd a lled y proffesiwn fferyllol, megis fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol ym maes gofal sylfaenol, gofal eilaidd a fferylliaeth gymunedol. Bydd yn ein helpu ni i wneud dewisiadau a llunio polisi sy'n cefnogi'r sector ar draws Cymru. Edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda'r Bwrdd yn y dyfodol."