Y coronafeirws – cynllunio ar gyfer y dyfodol yng Nghymru
Future planning for Coronavirus in Wales
Heddiw (dydd Mawrth 18 Awst) mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru yn egluro sut y dylai pob partner – gan gynnwys llywodraeth leol, byrddau iechyd, busnesau a phobl Cymru – weithio gyda’i gilydd i reoli risgiau’r coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y cam nesaf hwn yn y pandemig. Maent yn amlygu pa mor bwysig ydyw i Gymru weithredu ar y cyd wrth ymateb a bod gan bob un rôl i’w chwarae i helpu i atal lledaeniad y feirws.
Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bum maes ymyrraeth allweddol:
- Atal
- Achosion Newydd a Chlystyrau
- Achosion Lluosog a Brigiadau
- Mesurau lleol a rhanbarthol
- Mesurau Cymru gyfan
Ar bob lefel o ymyrraeth, mae’r cam yn nodi’r dull y byddwn yn ei ddilyn os bydd nifer yr achosion o’r feirws yn cynyddu. Atal yw’r cam pwysicaf, gan gynnwys yr hyn y gallwn ni ei wneud i atal lledaeniad y coronafeirws – fel golchi ein dwylo a chadw pellter o ddau fetr rhyngom â phobl eraill. Gweithio gyda’n gilydd i atal y coronafeirws rhag lledaenu yn y lle cyntaf yw’r unig ffordd o atal cyfyngiadau pellach ar ein bywydau bob dydd.
Mae gennym systemau ar waith ar bob lefel ym mhob cwr o Gymru i ymateb i achosion, clystyrau neu frigiadau newydd. Os bydd angen, byddwn hefyd yn egluro yn ein cynlluniau y dull y byddwn yn ei ddilyn ar gyfer cyflwyno mesurau lleol a rhanbarthol ehangach neu fesurau ar gyfer Cymru gyfan i ddiogelu Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: “Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n dal i fonitro, addasu a chynllunio ar gyfer brigiadau o achosion yn y dyfodol. Rydyn ni’n gwybod bod yn well gan y feirws dywydd oer. Gyda’r hydref yn agosáu, mae’r cynllun yn nodi’r camau pellach byddwn ni’n eu cymryd i ddiogelu Cymru.
“Mae atal yn cael lle pwysig iawn yn ein cynlluniau ni. Drwy sicrhau bod y cam hwnnw yn cael ei gynllunio’n gywir gallwn ni osgoi cyfyngiadau pellach ar ein bywydau. Does dim un ohonon ni un eisiau gweld cyfyngiadau llym yn cael eu cyflwyno unwaith eto fel y rheini a welon ni ym mis Mawrth eleni.
Rydyn ni wedi dangos, drwy weithio gyda phartneriaid, y gallwn ni weithio’n effeithlon ac effeithiol i reoli clystyrau a brigiadau bach – fel y gwelon ni yn Ynys Môn a Merthyr Tudful.
“Ein prif neges yw bod gan bob unigolyn, busnes a sefydliad ran i’w chwarae i atal lledaeniad y coronafeirws.”