Y cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben
Firebreak lockdown in Wales ends
Heddiw, wrth i’r cyfnod atal byr yng Nghymru ddod i ben, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bawb feddwl sut gallan nhw ddiogelu eu teuluoedd rhag y feirws.
Bydd set newydd o fesurau cenedlaethol yn dod i rym heddiw, gan ddisodli rheolau’r cyfnod atal byr. Ond, i reoli lledaeniad y feirws, bydd gweithredoedd pobl yn bwysicach na rheolau a rheoliadau yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Mae’r Prif Weinidog yn annog pawb i leihau nifer y bobl maen nhw’n eu gweld a’r amser maen nhw’n ei dreulio gyda nhw. Bydd hyn yn helpu i leihau’r risg o ddal y feirws a’i basio ymlaen.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Mae angen inni i gyd ystyried ein bywydau ein hunain a beth allwn ni i gyd ei wneud i ddiogelu ein teuluoedd. Mae angen inni roi’r gorau i feddwl beth yw’r eithaf y gallwn ei wneud o fewn y rheolau a’r rheoliadau.
“Mae’r coronafeirws yn heintus iawn – mae’n ffynnu ar gysylltiad rhwng pobl. I ddiogelu ein gilydd, mae angen inni leihau nifer y bobl yr ydyn ni’n eu gweld a faint o amser yr ydyn ni’n ei dreulio gyda nhw.
“Bydd set newydd o fesurau cenedlaethol ar waith o heddiw ymlaen, a fydd yn adeiladu ar y gwaith caled a’r aberth a wnaed yn ystod y cyfnod atal byr.
“Allwn ni ddim mynd yn ôl at y ffordd yr oedden ni’n byw ein bywydau a gwastraffu’r holl waith caled hwnnw.”
Mae’r mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol:
- Ni fydd pobl ond yn gallu cwrdd â phobl sy’n rhan o’u ‘swigen’ yn eu cartref eu hunain; dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith.
- Bydd modd i bobl gyfarfod mewn grwpiau o hyd at bedwar o bobl (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) mewn lleoedd o dan do sy’n cael eu rheoleiddio, megis lletygarwch – bariau, tafarndai, caffis a bwytai. Ni chaiff y lleoliadau hyn weini alcohol rhwng 10pm a 6am, a phan fo gan leoliad drwydded i werthu alcohol bydd rhaid i’r lleoliad gau am 10.20pm.
- Fel rhan o’r ymdrech i leihau ein risgiau, dylai pobl osgoi teithio nad yw’n hanfodol gymaint â phosibl. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond rhaid i bobl fod ag esgus rhesymol i deithio i mewn i Gymru neu i adael Cymru.
- Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd o dan do wedi’i drefnu (megis dosbarth ymarfer corf - – lle mae corff cyfrifol yn rheoli'r digwyddiad) a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu, cyn belled â bod yr holl fesurau cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill o ran COVID-19 yn cael eu dilyn.
Yn ogystal:
- Caiff cyfleusterau gofal plant, ysgolion, colegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a darparwyr addysg oedolion ddychwelyd at y model gweithredu a oedd ar waith ganddynt cyn y cyfnod atal byr. Caiff prifysgolion barhau i ddarparu cyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol.
- Caiff addoldai ailddechrau eu gwasanaethau.
- Caiff busnesau manwerthu ailagor, gan gynnwys gwasanaethau cysylltiad agos megis salonau trin gwallt, siopau barbwr a salonau harddwch.
- Caiff cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys campfeydd a phyllau nofio, ailagor, ond rhaid i’r gweithredwyr gymryd pob mesur rhesymol i reoli risg a chadw pellter cymdeithasol.
- Caiff lleoliadau adloniant ailagor, gan gynnwys sinemâu, alïau bowlio, rinciau sglefrio, amgueddfeydd, orielau, neuaddau bingo, casinos ac arcedau difyrrwch, ond mae’n dal yn ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd, clybiau nos a lleoliadau adloniant rhywiol fod ar gau.
- Caiff gwasanaethau awdurdodau lleol ailddechrau, ond yn unol ag amgylchiadau lleol.
- Caiff pobl sy’n bwriadu symud tŷ fynd i weld tai a chaiff pobl symud tŷ.
- Caniateir ymweliadau â chartrefi gofal, gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol.
Bydd yn dal yn ofynnol i bob safle sy’n ailagor gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risgiau o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn cynnwys mesurau i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o 2m, yn ogystal â mesurau eraill, megis cyfyngu ar niferoedd, gweithredu systemau unffordd neu gyfyngu ar faint o amser y caiff pobl ei dreulio ar y safle.
Mae pawb hefyd yn cael ei annog i wneud yr hanfodion bob amser – cadw pellter cymdeithasol; golchi dwylo’n aml a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do. Yn ogystal, gofynnir i bobl weithio gartref pan fo’n bosibl.
Ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae gan bawb yng Nghymru ran bwysig i'w chwarae er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws – allwn ni ddim gwneud hyn heb eich cymorth chi.
“Nod y mesurau cenedlaethol newydd yw diogelu iechyd pobl a lleihau faint o niwed sy’n cael ei achosi gan y feirws.
“Mae rheolau a rheoliadau'r Llywodraeth ar gael i helpu. Ond y gwir gryfder sydd gennym yw ein dewisiadau ni ein hunain a'r camau a gymerwn gyda'n gilydd.”