Y cyfyngiadau coronafeirws i barhau yng Nghymru
Wales extends coronavirus lockdown
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn cael eu hestyn am dair wythnos arall. Bydd mân addasiadau'n cael eu cynnig, ond gan gymryd y gofal mwyaf posibl i sicrhau nad yw'r feirws yn lledaenu.
I fynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau fis Mawrth sy’n gosod cyfyngiadau llym ar ymgynnull, ar symudiadau pobl, ac ar y ffordd y mae busnesau’n gweithredu, gan gynnwys eu cau.
Maent hefyd yn gosod gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau pellter corfforol rhwng pobl.
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau bob 21 diwrnod.
Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig (SAGE) a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn dangos, er bod penllanw cyntaf yr haint wedi mynd heibio a bod y cyfraddau’n parhau i ostwng, ei bod yn dal yn rhy fuan i godi’r gofynion a’r cyfyngiadau yn sylweddol.
Yn sgil yr ail adolygiad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y cyfyngiadau yng Nghymru yn parhau tan y cyfnod adolygu nesaf ymhen tair wythnos.
Gofynnir i bobl barhau i weithio gartref os gallant.
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw bod Cymru’n bwriadu wneud cyfres o newidiadau bychain i’r rheoliadau, gan gynnwys:
- Caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond gan aros yn eu hardal leol. Mae hynny’n golygu y dylai unrhyw ymarfer ddechrau a gorffen yn y cartref ac na ddylid teithio pellter sylweddol o’r cartref.
- Galluogi awdurdodau lleol i ddechrau ar y broses o gynllunio sut y gellir agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu yn ddiogel.
- Caniatáu i ganolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r rheol pellter corfforol.
Bwriedir i’r newidiadau hyn ddod i rym ddydd Llun, fel bod Cymru’n symud ar y cyd â gweddill y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Mae sefyllfa’r coronafeirws yn un na welwyd ei thebyg o’r blaen – felly hefyd ein hymateb ninnau iddi.
“Fel cenedl rydym wedi cyd-dynnu i fynd i'r afael â'r feirws hwn sydd wedi symud yn gyflym o amgylch y byd gyda chanlyniadau trasig. Hoffwn gydnabod y golled sydd wedi dod i ran rhai teuluoedd. Bu'r camau a gymerwyd gennym i ddiogelu pawb, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael salwch difrifol, yn rhai digynsail.
"Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am yr ymdrech hon ar y cyd. Gyda'n gilydd rydym yn helpu i leihau cyflymder a lledaeniad y feirws. Y canlyniad yw gostyngiad yn nifer yr achosion newydd a gostyngiad yn y gyfradd atgynhyrchu.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei harwain gan y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, cyngor ein Prif Swyddog Meddygol a chan y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf. Mae'r feirws yn dal yn fygythiad difrifol iawn i ni i gyd ac ni allwn laesu dwylo mewn unrhyw ffordd. O’r herwydd, bydd y rhan fwyaf o'r rheoliadau aros gartref yn parhau mewn grym Nghymru.
“Y dull gweithredu gorau o hyd, yn ein barn ni, yw ymateb fel pedair gwlad wrth lacio’r cyfyngiadau ac rydym yn parhau i ymgynghori â phob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae gennym ddyletswydd i bobl Cymru a bydd ein penderfyniadau’n cael eu seilio ar y dystiolaeth ac ar amgylchiadau penodol Cymru.”
Mae Llywodraeth Cymru heddiw’n cyhoeddi manylion y cyngor gwyddonol sydd wedi’i roi i’r Gweinidogion gan y Gell Cyngor Technegol (TAC).