Y Dirprwy Brif Weinidog yn cyhoeddi gwerth £3m o gymorth i ffermio organig yn y Ffair Aeaf
Deputy First Minister announces £3m organic farming support at Winter Fair
Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog yn nerbyniad Hybu Cig Cymru yn y Ffair Aeaf.y gallai ffermwyr organig ledled Cymru elwa ar werth £3 miliwn mewn taliadau cymorth yn ystod 2026-27.
Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cyhoeddi yn nerbyniad Hybu Cig Cymru yn y Ffair Aeaf y gall ffermwyr organig ledled Cymru elwa ar werth £3 miliwn mewn taliadau cymorth yn ystod 2026-27.
Bydd y cyllid dangosol gwerth £3m ar gael i bob ffermwr cymwys sydd â thir organig ardystiedig.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymorth organig yn seiliedig ar gyfuniad o amcanion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Caiff ffermio organig ei ystyried yn gonglfaen amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru, gan sicrhau manteision i fioamrywiaeth, hinsawdd, economïau gwledig ac iechyd y cyhoedd. Nod y cymorth gan y llywodraeth yw sicrhau bod ffermio organig yn parhau i fod yn hyfyw ac yn ddeniadol, yn enwedig wrth i Gymru drosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Wrth i ni baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, rwy'n awyddus i roi sicrwydd i ffermwyr organig am barhad y cymorth fel y gallant wneud penderfyniadau busnes cytbwys wrth iddynt gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf."
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn tystio i'n hymrwymiad i ffermwyr organig ledled Cymru."
Mae ffermio organig yn cyflawni manteision amgylcheddol y tu hwnt i arferion ffermio cynaliadwy safonol. Mae'r rhain yn cynnwys dileu gwrteithiau a phlaladdwyr artiffisial, diogelu ansawdd dŵr a gwella iechyd y pridd dros nifer o flynyddoedd.
Mae'r sector hefyd yn cyflenwi cynnyrch organig i gadwyni cyflenwi Cymru, gan gefnogi cyflogaeth wledig a chyfrannu at y Strategaeth Bwyd Cymunedol. Mae cynnyrch organig hefyd yn hollbwysig o fewn mentrau gan gynnwys darparu llysiau o ansawdd uchel a gynhyrchir yn lleol ar gyfer prydau ysgol yng Nghymru.
Yn ystod ei araith yn y derbyniad yn y Ffair Aeaf, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer ffermio yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, diogelu'r amgylchedd a chefnogi cymunedau gwledig. Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd: "Rwyf am weld dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru sy'n seiliedig ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd a chefnogi ein cymunedau gwledig.
"Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wrth wraidd y weledigaeth hon, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i amaethyddiaeth yng Nghymru.
"Rwy'n falch o ddweud, ar ôl cyfnod dwys o gydweithio, y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau ar 1 Ionawr. Rydym wedi gorffen cyfres o Sioeau Teithiol am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ddiweddar ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda llawer o ffermwyr yn paratoi ar gyfer dechrau'r Cynllun. Mae'r positifrwydd hwn yn deillio o waith partneriaeth gyda rhanddeiliaid sydd wedi ein helpu i fireinio'r Cynllun.
"Mae eleni, wrth gwrs, wedi bod yn flwyddyn llawn heriau. Ym mis Hydref, cadarnhawyd achosion cyntaf 2025 o'r Tafod Glas yng Nghymru. Rwy'n gwerthfawrogi bod y cyfyngiadau wedi tarfu ar bobl ac, yn dilyn adborth ac yn seiliedig ar dystiolaeth newydd, cyhoeddais Barth Cyfyngedig Cymru gyfan a ddechreuodd yn gynharach y mis hwn. Rydym yn canolbwyntio yn awr ar annog sgyrsiau gyda milfeddygon am frechu rhag y Tafod Glas cyn gwanwyn 2026.
"Mae ffliw adar yn fygythiad arall ar hyn o bryd ac, oherwydd y lefelau risg uwch, cyflwynwyd mesurau gorfodol ledled Cymru ar gyfer lletya adar ar 13 Tachwedd
"Hoffwn ddiolch i'r holl sectorau am eu cydweithrediad parhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
"Rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd drwy gydol 2026 a thu hwnt i gynnal diwydiant amaethyddiaeth a bwyd cadarn a llwyddiannus yng Nghymru."