Y Dirprwy Brif Weinidog yn dathlu Ffermio yng Nghymru a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy Nodedig yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen
Deputy First Minister Celebrates Welsh Farming and Landmark Sustainable Farming Scheme at Oxford Farming Conference
Roedd ffermio Cymru yn ganolog heddiw i un o brif ddigwyddiadau amaethyddol y DU, wrth i'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, hyrwyddo cynnyrch o'r radd flaenaf a’r dyfodol cynaliadwy yn y sector yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen eleni.
Wrth siarad â chynrychiolwyr yn OFC26 heddiw, tynnodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sylw at ansawdd ac arloesedd amaethyddiaeth Cymru i gynulleidfa ddylanwadol ledled y DU.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Mae hon yn foment nodedig i ffermio yng Nghymru – ar ôl sawl blwyddyn o ddatblygu – dechreuodd ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy yr wythnos diwethaf. Mae'r Cynllun yn bartneriaeth newydd rhwng pobl Cymru a ffermwyr - i'w helpu i gynhyrchu bwyd a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
"Ein gweledigaeth yw sector amaethyddiaeth a bwyd ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru sy'n darparu cynnyrch o'r radd flaenaf tra'n diogelu iechyd a lles anifeiliaid a phobl. Gan weithio ar y cyd â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, rydym nawr yn dod â'r weledigaeth honno yn fyw."
O dan y Cynllun, bydd Taliad Cynhwysol fferm gyfan blynyddol yn mynd i ffermwyr sy'n bodloni cyfres o 12 Cam Gweithredu Cyffredinol. Y tu hwnt i hyn, mae elfennau Dewisol a Chydweithredol ar gael i ffermwyr sy'n dymuno gwella eu cynhyrchiant neu eu heffaith ar yr amgylchedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hyd at £238 miliwn i'r Cynllun Taliad Sylfaenol haen Gyffredinol ac etifeddol yn 2026, gan ddarparu sicrwydd ariannol i deuluoedd ffermio.
Datblygwyd y cynllun trwy gydweithrediad helaeth â'r sector ffermio ac eraill, gyda newidiadau wedi'u gwneud i leihau cymhlethdod a sicrhau hygyrchedd i bob ffermwr, gan gynnwys tenantiaid.