English icon English
RWS food 2 -2

Y Dirprwy Brif Weinidog yn gwledda ar lwyddiant yn Arddangosfa Fwyd Sioe Frenhinol Cymru

Deputy First Minister Feasts on Success at Royal Welsh Show Food Showcase

Aeth y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd a materion gwledig ar daith o amgylch Lolfa Fusnes flaenllaw Bwyd a Diod Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru, heddiw [dydd Mawrth 22 Gorffennaf] gan weld drosto'i hun sut mae cymorth Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd masnachol mawr i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru. 

Y llynedd, sicrhaodd y Lolfa Fusnes y canlyniadau mwyaf erioed, gan ddenu 287 o brynwyr o wahanol sectorau'r farchnad a chynhyrchu £3.5 miliwn mewn gwerthiant wedi'i gadarnhau gydag amcangyfrif o £2 filiwn arall mewn gwerthiant posibl. Cofnododd y digwyddiad dros 1,080 o gyfleoedd busnes posibl, sef yr ymwneud mwyaf â phrynwyr hyd yma ar gyfer y rhaglen hon. 

Yn 2024, daeth yr arddangosfa â busnesau allweddol y diwydiant at ei gilydd, gan gynnwys 88 o fanwerthwyr mawr, cwmnïau a chyfanwerthwyr gwasanaethau bwyd, 156 o delis, siopau fferm a lleoliadau lletygarwch, a 43 o gynrychiolwyr caffael cyhoeddus.  

Ac eleni, bydd tua 2000 o gynhyrchion gan dros 300 o gynhyrchwyr yn cael eu harddangos yn y Lolfa Fusnes. Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog gyfle i brofi bwrlwm y lolfa fusnes a'r neuadd fwyd a siaradodd â chynhyrchwyr a oedd yn edrych ymlaen at Sioe Frenhinol brysur.  

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cywain wedi bod yn safle lansio i gynhyrchwyr bwyd a diod di-ri sy'n llawn addewid. Eleni mae 16 o gynhyrchwyr yn Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf.   

Wrth arddangos yn stondin Cywain, dywedodd Claire Garland o'r Pembrokeshire Cheesecake Company:

"Fel busnes bach, mae'n wych gallu bod yma heddiw. Mae'r cyfleuster a ddarperir drwy Cywain a Chanolfan Bwyd Cymru i ddarparu stondin a'i gosod i ddod i'r Sioe Frenhinol, sy'n uchafbwynt o ran digwyddiadau i bob busnes bach - yn hollol amhrisiadwy."

"Gobeithio y byddwn ni'n gwneud rhai cysylltiadau da yma heddiw. Dyna'r prif reswm i ddod, yn ogystal ag arddangos fy nghynhyrchion, a gweld lle mae hynny'n mynd â ni. Rydym yn gobeithio cael rhai cyfleoedd busnes da iawn heddiw ac y bydd y busnes yn parhau i ffynnu."

Dywedodd Sioned o Wagyu'r Wyddfa: "Mae bod ar y stondin hon eleni a chael y math yma o sylw yn wirioneddol ardderchog. Mae dod i'r Sioe Frenhinol i arddangos yn gam mawr. Mae'r gost go iawn o fynd i sioe i fusnes bach yn un elfen, ac oherwydd mai dim ond y ddau ohonom sydd ar y fferm, mae'n braf cael yr un diwrnod hwnnw i brofi, dim ond i weld beth yw'r ymateb a chael yr adborth gan bobl.  Fydden ni ddim yn gallu gwneud pedwar diwrnod - mae'n rhaid i ni dyfu'r busnes ychydig yn gyntaf.

"Mae'n bwysig iawn bod gennym lefydd fel Cywain sy'n gallu cynnig y cymorth hwn i ni - o osod y stondin i sut i siarad â phobl a sut i gyflwyno eich cynnyrch hefyd. Mae gwerthu'r cynnyrch i rywun yn sefyllfa hollol wahanol i ffermio.

"Mae'n hanfodol fod gennym y cymorth yma yng Nghymru."

Yn ystod yr ymweliad, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Mae Lolfa Fusnes Bwyd a Diod Cymru yn dangos yn union sut mae ein cymorth strategol yn creu cyfleoedd masnachol go iawn i gynhyrchwyr Cymru. Gyda £5 miliwn mewn gwerthiant posibl a dros 1,000 o gyfleoedd busnes posibl wedi'u cynhyrchu y llynedd, mae'r rhaglen hon yn helpu ein sector bwyd a diod i ffynnu gan gefnogi arallgyfeirio ar ffermydd a chynaliadwyedd gwledig.  

"Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn gonglfaen i'n heconomi ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol aruthrol. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod sector Bwyd a Diod Cymru wedi cynhyrchu trosiant o dros £10 biliwn, tra bod y gadwyn gyflenwi yn cyflogi dros 223,000 o bobl sy'n cyfrif am 17% o gyfanswm gweithlu Cymru. 

"Roedd yn bleser cael taith y bore yma a chwrdd â'r cynhyrchwyr. Mae'n gyffrous gweld busnesau Cymru yn cysylltu â phrynwyr mawr ac yn sicrhau cyfleoedd newydd yn y farchnad."